Ŵyn Bach Melangell

Ydych chi erioed wedi gofyn pam mae pobl yn meddwl am ŵyn fel anifeiliaid bach tawel, diniwed a charedig? Pam dylen ni ofalu am bob peth byw ar y ddaear?

Roedd y Dywysoges Melangell yn byw yn y 7fed ganrif. Doedd hi ddim eisiau priodi'r dyn roedd ei thad wedi ei ddewis ar ei chyfer. Felly, rhedodd i ffwrdd o Iwerddon a byw fel meudwyes yn nyffryn Cwm Pennant yn sir Drefaldwyn.

Un diwrnod, roedd Brochwel, Tywysog Powys yn hela yn nyffryn Cwm Pennant. Roedd sŵn ei gorn hela yn atsain dros bob bryn a dôl. Roedd yr helwyr yn carlamu tua'r gorllewin gan daro'u chwipiau ac roedd y cŵn hela yn cyfarth yn uchel.

Yn sydyn, rhoddodd y carw coch y gorau i bori yn y cae gerllaw'r afon. Rhoddodd y baedd gwyllt y gorau i dyrchu o dan y llwyni. Ond dal i gyrcydu a wnaeth yr ysgyfarnog frown yn ei gwâl yn y borfa.

Daeth y sŵn yn nes. Trodd y carw coch a'r baedd gwyllt a ffoi i'r goedwig. Eisteddodd yr ysgyfarnog i fyny'n syth yn ei gwâl. Roedd y borfa'n siglo a'r ddaear yn crynu.

Gydag un naid, llamodd yr ysgyfarnog o'r borfa. Rhedodd y cŵn a'r helwyr tuag ati ond gan sgrechian mewn ofn, rhedodd i ffwrdd gan neidio a llamu i bob cyfeiriad.

Doedd y Tywysog Brochwel ddim yn hapus iawn oherwydd roedd ef a'i ddynion wedi carlamu am filltiroedd dros dôl a bryn heb ddal dim byd. Roedd ysgyfarnog yn well na dim.

"Daliwch yr ysgyfarnog 'na!" bloeddiodd.

Rhuthrodd yr ysgyfarnog tuag at ddyffryn coediog cul yn y mynyddoedd.
Tarodd Brochwel ei chwip. Gan gyfarth yn uchel a chyffrous, rhedodd y cŵn hela i'r coed. Neidiodd Brochwel oddi ar ei geffyl a rhedeg ar eu hôl.

Ond cyn gynted ag yr aeth ef i'r goedwig, digwyddodd rhywbeth rhyfedd. Peidiodd y sŵn. Doedd Brochwel ddim yn gallu clywed sŵn cyfarth na sŵn chwyrnu. Cododd ei gorn hela at ei wefusau a chwythu'n galed. Daeth dim smic ohono!

Yn bryderus, aeth Brochwel yn ei flaen drwy'r goedwig hyd nes iddo gyrraedd llecyn agored. Yno fe welodd ei gŵn yn eu cwrcwd ar y llawr, eu cynffonau'n siglo. Roedd merch ifanc yn sefyll o'u blaen. Roedd hi'n magu ysgyfarnog frown oedd yn gorwedd fel oen bach yn eu breichiau.

Agorodd Brochwel ei geg i weiddi, ond doedd e ddim yn gallu gwneud dim ond sibrwd.
"Pwy wyt ti?" gofynnodd i'r ferch.
"Melangell ydw i," atebodd.

Daeth siffrwd tawel o'r goedwig y tu ôl iddi. O dan y canghennau roedd y carw coch, y baedd gwyllt a rhes o ysgyfarnogod brown yn sefyll. Roedden nhw i gyd yn gwylio'r tywysog, ond doedd dim ofn arnyn nhw. Fyddai neb yn gallu gwneud niwed iddyn nhw tra byddai Melangell gerllaw. Syrthiodd Brochwel ar ei liniau.

"Melangell," meddai, "rwyt ti'n ferch ifanc ryfeddol. Wna i fyth hela yma eto. Ti a dy anifeiliaid fydd biau'r dyffryn o hyn ymlaen."

Galwodd Brochwel ei gŵn a'i helwyr. Aethon nhw i ffwrdd, heb na siw na miw.

Adeiladodd Melangell eglwys yn y dyffryn, eglwys Pennant Melangell. Gallwch weld yr eglwys hyd at y dydd heddiw a'i hŵyn bach. Mae clustiau hir gan ŵyn bach Melangell a gallan nhw redeg fel y gwynt. Pam? Ysgyfarnogod brown ydyn nhw! Mae Pennant Melangell wedi bod yn fan pererindod ers canrifoedd lawer. Melangell ydy nawdd sant ysgyfarnogod ac anifeiliaid bach o hyd.

Dydych chi ddim yn gallu credu popeth rydych chi'n ei ddarllen wrth ddarllen chwedl. Beth am geisio dod o hyd i fersiynau gwahanol o'r chwedl? Pam mae pobl yn ymweld ag eglwys Melangell heddiw? Sut gallwn ni ddarganfod a oedd Brochwel, Tywysog Powys yn bod yn ystod y 7fed ganrif yng Nghymru? Pa dystiolaeth a ffynonellau allwn ni eu defnyddio i ddod o hyd i wybodaeth?

Melangell

Defnyddiwch gorneli'r tudalennau i ddarllen y llyfr

Gweithgareddau ⇓

1. Ym mha wlad yn y Deyrnas Unedig y digwyddodd y chwedl?

2. Ble yng Nghymru y digwyddodd y chwedl?

3. Beth sydd mor arbennig am Bennant Melangell?

4. A fyddai ynni gwyrdd yn gallu peryglu dyfodol tirwedd Pennant Melangell?