



Beth fyddai eich penderfyniad chi i'r cynnig i adeiladu fferm wynt ger Pennant Melangell? Pam?
Mae hon yn ardal brydferth ac mae pobl yn ymweld â'r ardal i fwynhau'r golygfeydd rhyfeddol. Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd y tyrbinau gwynt hyn yn dinistrio harddwch golygfaol yr ardal o gwmpas. Bydd y tyrbinau gwynt hefyd yn lladd adar ac yn niweidio bywyd gwyllt o bosib. Gall tyrbinau fod mor uchel â 145 metr!
Mae fy nheulu i wedi ffermio'r ardal hon am dair cenhedlaeth. Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd y sŵn o'r tyrbinau gwynt yn aflonyddu ar fy nefaid yn arbennig yn ystod y tymor ŵyna
Dim ond ffermydd gwynt ymhell o lan y môr dylen nhw adeiladu. Bydden nhw o'r golwg wedyn.
Mae hwn yn safle delfrydol ar gyfer tyrbinau gwynt i gynhyrchu trydan. Mae ar gopa bryn ac mae'n lle gwyntog iawn.
Mae eglwys Pennant Melangell yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid a phererinion. Bydd hyn yn difetha'r wlad a'i dawelwch.
Mae'n rhaid i Gymru gael ynni carbon isel erbyn 2050 a chynllun y llywodraeth ydy cael tyrbinau gwynt ar 2% o dir Cymru. Bydd o fudd i'r economi leol yn ystod y cyfnod adeiladu.
Mae angen llawer o dyrbinau gwynt er mwyn cynhyrchu llawer o ynni. Dim ond pan fydd hi'n wyntog iawn bydd y tyrbinau gwynt yn gweithio.