Post Boyr

1

Cafodd dau o bobl eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff gael ei ganfod yn dilyn tân mewn canolfan ailgylchu yn Aberboyr. Galwyd y Frigâd Dân toc wedi naw o’r gloch bore echdoe ond erbyn hanner dydd roedd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cadarnhau bod dwsin o beiriannau ar waith ar y safle gan fod dros ddwy fil tunnell o sbwriel yn y ganolfan.

2

Llwyddwyd i ddiffodd y tân cyn diwedd y dydd ond wrth i arbenigwyr fforensig archwilio’r safle ddoe i ddod o hyd i achos y tân, daethpwyd o hyd i gorff dyn tua hanner cant oed wedi ei guddio rhwng dwy sgip. Cafodd yr heddlu eu galw ar unwaith ac fe ddechreuwyd ymchwiliad i’w farwolaeth. Profodd post-mortem ddoe fod y dyn wedi marw cyn i’r tân gynnau.

3
cafwyd
daethpwyd
galwyd
llwyddwyd
llofruddiwyd
lladdwyd
ailgylchwyd
diffoddwyd
cafodd
llwyddodd
ailgylchu
llofruddio
galwodd
lladd
daeth
diffodd