Ydyn, mae pobl mewn gwahanol rannau o Gymru'n siarad gwahanol dafodieithoedd. Efallai bod hyn yn golygu defnyddio geiriau ac ymadroddion sy'n amrywio o le i le, fel “mynd am dro” neu “mynd am wâc” neu mae'n gallu golygu defnyddio patrwm gwahanol weithiau, fel “Mae gen i wallt oren a llygaid piws” yn lle “Mae gwallt oren a llygaid piws gyda fi.” Fodd bynnag, beth bynnag yw'r gwahaniaethau, mae Cymry mewn gwahanol rannau o'r wlad yn deall ei gilydd. Mae'r un peth yn wir yn Lloegr hefyd. Mae pobl Dwyrain Llundain yn defnyddio rhai geiriau gwahanol ac yn siarad ag acenion gwahanol o'u cymharu â phobl Lerpwl, neu Newcastle neu Birmingham, er enghraifft - ond fel arfer, pan fydd pobl o'r lleoedd hyn yn cyfarfod, maen nhw'n deall ei gilydd yn iawn.
Mae’r geiriau yn y bocs yn cael eu defnyddio mewn gwahanol rannau o Gymru.
Teipiwch y geiriau isod mewn i’r celloedd cywir yn y grid. Mae’r enghraifft gyntaf wedi ei chwblhau i chi.