Gair tebyg ei ystyr | Gair yn y testun |
---|---|
cyflym | |
taro | |
meiddio | |
tôn | |
siarad | |
dwyn |
Y rhosyn a’r gwynt
Plygais un noson i sgwrsio â’r gwynt,
a’m calon i’n curo yn gynt ac ynghynt,
siarad am eiliad am bopeth a dim,
a’m henaid i’n gwrando a’i ana’l e’n chwim.
Plygais un noson i ddawnsio â’r gwynt,
a’m calon i’n curo yn gynt ac ynghynt,
symud am funud heb fentro ymhell,
a’m henaid i’n clywed ei alaw e’n well.
Plygais neithiwr i gusan y gwynt,
a’m calon i’n curo yn gynt ac ynghynt,
rhois iddo ‘mhetalau, y rhai cochaf i gyd,
a gadael iddo’u cipio i bellter y byd.
Plygaf, heno, fy mhen ar y tir,
a’m calon yn gwybod yn wir, yn wir –
er colli ‘mhetalau, rwy’n gyfan yn awr,
a chariad y gwynt wedi ‘nghodi o’r llawr.
Mererid Hopwood