Cinio ym Mharis

1

Roedd yr olygfa’n berffaith. Taflodd y gannwyll gysgodion dros falconi’r bwyty gan oleuo’r bwrdd i ddau. Chwaraeodd yr awel â hem fy ffrog binc. Goleuodd lleuad lawn Paris fy nghariad a oedd wedi penlinio o’m blaen. Roeddwn wedi gwneud fy mhenderfyniad ers pan gwrddon ni am y tro cyntaf chwe wythnos yn ôl. Gweiddais fy ateb gyda llawenydd ac ymunodd pawb arall oedd yn y bwyty yn y dathlu. Tawelwch. Cododd fy nghariad yn embaras i gyd ar ôl iddo orffen cau ei gareiau.

Rhiannon Lloyd Williams

2
Pa liw oedd y ffrog?
Pa fath o weithredu oedd y dyn yn wneud?
Ers pryd oedd y fenyw wedi gwneud ei phenderfyniad?
Ym mha fath o le wnaeth hyn ddigwydd?