Priodi crocodeil

1
2

Mae’r pysgotwyr lleol yn credu y byddan nhw’n dal llawer o pysgod oherwydd y priodas hon.

3

Priodi crocodeil

Mae’r maer mewn pentref pysgota yn ne Mecsico wedi priodi crocodeil.

Ie – crocodeil.

Mewn seremoni arbennig unwyd y maer â’i briodferth, y crocodeil, a oedd yn gwisgo gŵn gwyn, hardd. Ar ôl y briodas, dawnsiodd y pâr hapus gyda’i gilydd o flaen y bobl leol , ond roedd ceg y crocodeil wedi ei chlymu – rhag ofn. Yna, i ddathlu’r achlysur,

roedd tân gwyllt lliwgar.

...............................................

“Mae’n hen draddodiad,” eglurodd pysgotwr lleol yn y gynulleidfa. “Rydyn ni’n credu mai tywysoges yw’r crocodeil a bydd ei phriodas hi â’r maer yn sicrhau bod digonedd o bysgod i ni yn y môr.”

Pob dymuniad da i’r pâr priod!