Gwobr Dug Caeredin

1

“Gwneud Gwobr Dug Caeredin oedd un o brofiadau gorau fy mywyd.” Dyna eiriau Rhydian Jones, sydd wedi ennill gwobrau efydd, arian ac aur.

Mae’r cynllun hwn, sy’n llawn hwyl, yn ffordd dda i fagu hyder, gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm, gwneud penderfyniadau ac arwain. Cewch brofiadau anhygoel tra ar yr un pryd yn dysgu sgiliau newydd ac archwilio meysydd newydd.

Does dim ots pwy ydych chi, na ble rydych chi’n byw, tra’ch bod chi rhwng pedair ar ddeg a phedair ar hugain oed. Gallwch ddewis y gweithgareddau sy’n eich sbarduno chi a dilyn llwybr personol o’ch dewis chi.

Mae gwneud y wobr yn agor drysau i addysg bellach a gwaith ac yn dangos i brifysgolion a chyflogwyr eich bod yn berson arbennig, felly ewch amdani. Peidiwch ag oedi.

2
Unigol Lluosog
meysydd
gwobrau
bywyd
geiriau
cynllun
ffordd
profiadau
llwybr
drysau
cyflogwyr