Wedi’r bom
Torrodd sgrech y seiren drwy’r awyr lwyd gan dorri ar y distawrwydd llonydd. Bob yn dipyn, dechreuodd pobl symud o gwmpas yn llechwraidd ac yn ofnus.
Roedd llanast ym mhob man; pentyrrau o rwbel, darnau o bren, briciau wedi’u chwalu, dodrefn oedd yn edrych fel coed tân a dillad rhacsiog yn hofran yn yr awel. Camodd Samira yn ofalus drwy’r rwbel. Symudai fel petai mewn breuddwyd ac roedd golwg bell yn ei llygaid.
“Dw i ddim yn gallu ffeindio fy merch fach,” sibrydodd.
Ond chymerodd neb sylw ohoni. Roedd gan bawb ei ofid ei hun. Yn sydyn, clywodd Samira floedd oerllyd o rywle.
“Dw i ddim yn gallu ffeindio fy merch fach!” Ai ei llais hi oedd hwn? Roedd yn swnio mor bell i ffwrdd. Ai breuddwyd oedd hyn i gyd?
Cyn pen dim, roedd sain aflafar cerbydau’r gwasanaethau brys yn llenwi’r lle. Roedd pobl yn rhedeg ar hyd y lle fel ynfydion yn chwilio am berthnasau a ffrindiau. Ond roedd Samira yn sefyll yn stond. Fedrai hi ddim symud modfedd achos yno, o’i blaen ...
Ystyr | Gair o'r Testun |
---|---|
pobl wallgof | |
tawelwch | |
gwaedd | |
sŵn cas, sy’n uchel neu’n gras | |
aelodau o’r teulu | |
anwybyddodd |
llonydd distawrwydd aflafar llechwraidd ofnus symud llanast pentyrrau gofalus oerllyd llygaid bloedd rhacsiog