Dewis safbwynt Cymorth
Dewiswch un safbwynt neu fwy a dadleuwch eich achos pam y dylai'r cynnig gael ei dderbyn/ei wrthod gan yr adran gynllunio/y gymdeithas leol.
Geiriau allweddol:
Cyfarwyddwr/Cwmni Ffilmiau
Mae cyfarwyddwr ffilm yn goruchwylio ac yn cyflwyno prosiect ffilm i'r stiwdio ffilmio neu unrhyw gorff ariannu arall, gan gadw at gywirdeb, llais a gweledigaeth y ffilm
Caniatâd cynllunio
Caniatâd ffurfiol oddi wrth awdurdod lleol sy'n caniatáu i brosiect datblygu arfaethedig fynd yn ei flaen (wedi asesu effaith penodol y prosiect yn amgylcheddol neu'n gymdeithasol).
Gwarchodfa Natur
Ardaloedd sydd wedi eu neilltuo i gadw a gwarchod anifeiliaid a phlanhigion arbennig, neu'r ddau. Maen nhw'n wahanol i barciau cenedlaethol, sydd yn ardaloedd ar gyfer hamddena cyhoeddus yn bennaf, oherwydd maen nhw'n cael eu darparu'n benodol i warchod rhywogaethau er eu mwyn eu hunain.
Erydu llwybrau troed
Y darnau bach o greigiau, cerrig mân, tywod sydd yn cael eu torri i ffwrdd yn raddol wrth i bobl eu sathru dan draed ac wrth i'r gwynt chwythu ar eu traws ydy erydiad.
Defnydd cynaliadwy
Ystyr defnydd cynaliadwy ydy gallu cynnal rhywbeth (e.e. bywyd) ar lefel arbennig (e.e. ansawdd) am gyfnod o amser.