Beth fyddai eich penderfyniad chi i'r cynnig i ganiatáu'r cwmni ffilmio ddefnyddio'r ynys am 6 mis?

Safbwynt ffarmwr Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd mae Ynys Llanddwyn yn agos iawn at fy nhir. Mae rhai o'r defaid Soay arbennig sydd gen i yn pori ger y capel ar yr ynys hon. Bydd y sŵn o'r broses ffilmio yn amharu ar yr anifeiliaid.
Safbwynt ymwelydd lleol Mae Ynys Llanddwyn yn lle hudolus ac yn safle picnic delfrydol. Rydw i wrth fy modd yn ymlacio ar yr ynys dawel, heddychol yma a gweld a gwrando ar y bywyd gwyllt. Mae golygfeydd ardderchog o Eryri a Phenrhyn Llŷn hefyd o'r ynys. Fydda i ddim yn gallu gwneud hyn yn ystod y cyfnod ffilmio.
Safbwynt Warden Gwarchodfa Natur Mae Ynys Llanddwyn yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Niwbwrch. Mae twyni, fflapiau mwd a morfeydd heli'r warchodfa yn cynnal amrywiaeth eang o blanhigion ac infertebratau fel clychau'r gog a phabi melyn.
Safbwynt pysgotwr lleol Mae'r clogwyni o gwmpas yr ynys yn cynnal amrywiaeth eang o adar y môr sy'n nythu, yn cynnwys morfrain, mulfrain gwyrddion a phïod y môr. Mae un y cant o gyfanswm poblogaeth fagu morfrain Prydain yn heidio i Ynys yr Adar, sef ynys fach oddi ar drwyn Llanddwyn yn ystod y gwanwyn. Mae adar hirgoes fel hutanod y dŵr a phibyddion y traeth i'w gweld ar hyd yr arfordir a gellir gweld gwenoliaid y môr yn pysgota yn y bae.
Safbwynt perchennog caffi ym mhentref Niwbwrch Mae hwn yn gynnig ardderchog oherwydd nid dim ond rhoi hwb i'r economi leol yn ystod y cyfnod ffilmio a wna ond bydd hefyd yn helpu'r economi leol yn y tymor hir drwy ddenu twristiaid i'r ynys.
Safbwynt un o'r trigolion lleol (Cerddwr brwd) Yn ystod y ffilmio fydd dim modd cael mynediad i'r llwybrau troed ar yr ynys. Bydd y lorïau sy'n cario'r offer ffilmio yn erydu'r llwybrau troed ac yn dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt.
Safbwynt Warden yr Eglwys Bydd y criw ffilmio yn difetha amgylchedd tawel, heddychlon yr ynys a bydd llai o bererinion yn ymweld â hi.
Safbwynt Cynghorydd Lleol Bydd hyn yn gwneud Ynys Llanddwyn a'r ardal gyfagos, yn enwedig Niwbwrch yn enwog a bydd yn denu nifer o ymwelwyr lleol a hyd yn oed ymwelwyr o bob cwr o'r byd! Bydd yr economi leol hefyd yn elwa yn ystod y cyfnod ffilmio.