Beth ydy ynni gwyrdd?








0/8
Ers oes Fictoria mae trydan wedi bod yn bwysig yn ein bywydau. Mae'r rhan fwyaf o drydan rydyn ni'n ei ddefnyddio ym Mhrydain yn cael ei gynhyrchu drwy losgi tanwyddau ffosil fel nwy, olew a glo i greu ynni o'r gwres. Pan fydd y tanwyddau hyn yn cael eu llosgi bydd nwyon yn cael eu cynhyrchu a byddan nhw'n llygru'r atmosffer ac yn achosi newid yn hinsawdd y byd.
Mae'r llywodraeth wedi gosod targed i'r wlad gynyddu swm y trydan sy'n cael ei gynhyrchu drwy ddefnyddio ffynonellau "gwyrdd" fel pŵer y tonnau a'r gwynt. Mae'r ffynonellau trydan hyn yn dda i'r amgylchedd oherwydd dydyn nhw ddim yn cynhyrchu llygredd ond maen nhw hefyd yn effeithio ar y dirwedd.