C
Y
N
L
L
U
N

Canolfan Peniarth

Astudiwch gynllun y cynnig i
ehangu'r gronfa ddŵr ger Llyn y Fan Fach.

Beth ydy'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig i ehangu cronfeydd dŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?

Cyn penderfynu ymchwiliwch y safbwyntiau gwahanol canlynol.

O blaid

Yn erbyn

Safbwynt 1 Safbwynt 2 Safbwynt 3 Safbwynt 4 Safbwynt 5 Safbwynt 6 Safbwynt 7 Safbwynt 8

Ffermwraig: Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd llai o dir gan fy anifeiliaid i bori. Bydd dros hanner fy nhir i yn cael ei golli (boddi) os byddan nhw'n ehangu'r gronfa ddŵr. Dydy'r iawndal a roddir gan y bwrdd dŵr ddim yn ddigon i wneud iawn am y tir a gollir.

Cau

Swyddog o'r Fyddin:Mae'r fyddin yn defnyddio'r parc i hyfforddi milwyr ac ymarfer hedfan yn isel. Bydd lleoliad y gronfa ddŵr estynedig yn ein rhwystro ni rhag hedfan yn yr ardal.

Cau

Warden Parc Cenedlaethol: Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o'r parc. Bydd y gronfa ddŵr estynedig yn difetha cynefinoedd bywyd gwyllt fel blodau prin a barcutiaid coch. Bydd sŵn y peiriannau yn ystod y broses o ehangu'r gronfa ddŵr ac adeiladu'r argae hefyd yn rhoi ofn i fywyd gwyllt eraill a byddan nhw'n cadw i ffwrdd.

Cau

Canŵydd: Mae hwn yn gynnig cyffrous iawn! Byddwn yn bendant yn defnyddio mwy ar y llyn oherwydd gall y llyn fod yn brysur iawn yn ystod y tymor gwyliau ar hyn o bryd.

Cau

Ymwelydd: Rydw i wrth fy modd yn ymweld â'r parc i gerdded y mynyddoedd a'r llynnoedd. Byddai'r llwybrau troed a'r golygfeydd hardd yn cael eu difetha os bydd y gronfa ddŵr yn cael ei ehangu.

Cau

Pysgotwr: Does dim digon o lynnoedd ac afonydd yn y parc. Drwy ehangu'r gronfa ddŵr bresennol byddai mwy o bysgod i'w dal! (Cronfeydd dŵr a llynnoedd 0.6%) .

Cau

Cwmni Bwrdd Dŵr: Mae galw i gynyddu cyflenwad dŵr i bobl Cymru. Mae effaith amgylcheddol ehangu'r gronfa ddŵr yn isel oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r ardal wedi ei gorchuddio gan redyn, tir agored a thir diffaith.

Cau

Swyddog Cwmni Twristiaeth: Gallwn gynnig mwy o weithgareddau chwaraeon dŵr i bobl leol a thwristiaid drwy ehangu'r gronfa ddŵr. Mae'r galw am gyfleusterau chwaraeon dŵr yn cynyddu bob blwyddyn yn y parc.

Cau

Dewiswch un safbwynt neu fwy a'u llusgo i'r blychau uchod.

Dadleuwch eich achos PAM y dylai/na ddylai'r cynnig gael ei dderbyn gan yr adran gynllunio/y gymuned leol.