Llyn y Fan Fach

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae perlysiau a phlanhigion yn gallu gwella pobl? Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n gorwedd o dan unrhyw lyn?

Ar ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, roedd gwraig weddw yn byw ym Mlaensawdde ger Llanddeusant, sir Gaerfyrddin. Roedd ei hunig fab yn gofalu am yr anifeiliaid ger y llyn bach a elwid yn Llyn y Fan Fach, yng nghysgod y Mynydd Du.

Ar ddiwrnod braf o haf doedd dim yn well ganddo nag eistedd ger y llyn, yn breuddwydio wrth i'r gwartheg bori gweiriau'r mynydd. Byddai'n gwylio'r barcutiaid coch yn hedfan uwch ei ben, gan wibio dros grib y mynydd wrth iddyn nhw hela.

Un diwrnod wrth iddo gerdded ar hyd ymyl y llyn gwelodd ferch brydferth yn eistedd ar wyneb y dŵr. Hi oedd un o'r merched harddaf a welodd erioed. Syrthiodd mewn cariad â hi yn syth ac roedd eisiau ei phriodi.

Cynigiodd y ffermwr dri math o fara iddi. Ar y diwrnod cyntaf cynigiodd fara cras iddi ond gwrthod a wnaeth a phlymio yn ôl i waelod y llyn. Ar yr ail ddiwrnod cynigiodd does iddi ond gwrthododd hwn hefyd. Penderfynodd gynnig bara oedd wedi ei grasu'n ysgafn iddi ar y trydydd diwrnod. Derbyniodd y ferch y bara hwn a chytuno hefyd i'w briodi.

Yna diflannodd yn ôl i'r llyn a dychwelyd gyda'i thad a'i chwaer oedd yr un ffunud â hi. Roedd cynllun gan y tad i weld a oedd y ffermwr eisiau priodi ei ferch mewn gwirionedd. Gofynnodd i'r ffermwr nodi unrhyw beth oedd yn wahanol rhwng ei ddwy ferch. Er eu bod yn edrych yr un fath yn union, roedd y ffermwr yn adnabod y ferch hardd roedd e'n ei charu o'r modd roedd hi'n clymu ei sandalau.

Penderfynodd y tad ganiatáu i'r ffermwr briodi ei ferch ar un amod. Doedd dim hawl ganddo daro ei ferch mwy na thair gwaith, ac ar y trydydd tro byddai'n diflannu i'r llyn am byth.

Priododd y ffermwr a'r forwyn ac aethon nhw i fyw ar fferm Esgair Llaethdy, tua milltir o bentref Myddfai. Derbynion nhw fwy o anifeiliaid nag yr oedden nhw'n gallu eu cyfri fel anrheg priodas, yn cynnwys gwartheg, defaid, geifr a cheffylau.

Roedden nhw'n hapus iawn yn ffermio Esgair Llaethdy a ganwyd tri mab golygus iddyn nhw.

Fodd bynnag, anghofiodd y ffermwr am amod ei briodas a tharodd ei wraig dair gwaith! Yn anffodus fe darodd ei wraig pan chwarddodd mewn angladd, pan griodd mewn priodas a phan darodd hi'n ysgafn trwy ddamwain â rhan fetel y ffrwyn wrth iddi ei helpu i harneisio ceffyl.


Diflannodd ei wraig yn ôl i'r llyn ynghyd â'r gwartheg tylwyth teg a'r anrhegion priodas i gyd. Welwch chi ddim ond ôl y gŵys a wnaed gan yr aradr wrth i'r ychen ei thynnu i'r llyn, ac yn wir mae yno hyd at y dydd heddiw!

Er hynny, dydy'r stori ddim yn gorffen yn y fan hon. Bu farw'r ffermwr o dorcalon. Treuliodd y tri mab y rhan fwyaf o'u diwrnodau yn crwydro ar lan y llyn yn y gobaith o weld eu mam unwaith eto.

Un diwrnod fe ailymddangosodd hi ger Dôl Howel, wrth Lidiart y Mynydd, a elwir o hyd yn 'Llidiart y Meddygon', a dywedodd wrth Rhiwallon, y mab hynaf, bod yn rhaid iddo fynd yn feddyg a bod yn 'gymwynaswr i'r ddynolryw gan leddfu pob poen a gofid ac iacháu pob math o afiechydon'.

Dywedodd wrtho mai ei bwrpas ar y ddaear oedd iacháu'r rhai sâl a lleddfu eu dioddefaint. Aeth â'u meibion i le o'r enw Pant y Meddygon, a dangosodd iddyn nhw lle roedd y planhigion a'r perlysiau yn tyfu, a dysgodd y ddawn o iacháu iddyn nhw.

Fe ddaeth Rhiwallon a'i feibion Cadwgan, Gruffydd ac Einion yn feddygon mwyaf dawnus y wlad. Rhoddodd Rhys Grug, Arglwydd Castell Llanymddyfri a Dinefwr, safle, tiroedd a breintiau iddyn nhw ym Myddfai i arfer eu dawn o iacháu pobl. Daeth Meddygon Myddfai yn enwog drwy Gymru benbaladr ac felly hefyd eu disgynyddion am ganrifoedd lawer. Cafodd meddyginiaethau Meddygon Myddfai ar gyfer salwch fel peswch a maleithiau (hadau mwstard ar ffurf powdwr bras wedi eu berwi â ffigys mewn cwrw cryf) eu cofnodi yn Llyfr Coch Hergest.

Gellir gweld Llyn y Fan Fach heddiw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gellir gweld olion yr aradr a dynnwyd gan yr ych pan ddiflannodd Morwyn y Llyn am y tro diwethaf ger y llyn.

Pan rydych chi'n darllen chwedlau mae'n anodd iawn credu popeth. Beth am geisio canfod faint o'r chwedl sy'n wir? Er enghraifft, allwch chi ddod o hyd i hanesion gwahanol sy'n dweud ai fferm neu dyddyn oedd Esgair Llaethdy? Oes unrhyw gyswllt rhwng Meddygon Myddfai a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru? Roedd pobl yr Oes Efydd yn aml yn byw ar lan llynnoedd ac roedden nhw'n enwog am eu gallu i iacháu a deall meddyginiaethau llysieuol. Oes unrhyw gyswllt rhwng pobl Geltaidd yr Oes Efydd a tharddiad y chwedl?

Llyn y Fan Fach

Defnyddiwch gorneli'r tudalennau i ddarllen y llyfr.

Gweithgareddau ⇓