Arthur

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed pam mae pobl yn cael eu hudo gan hen adeiladau ac adfeilion? Pam mae pobl yn hoffi dysgu am y Rhufeiniaid? Pam mae cymaint o bobl yn ymweld â Chaerllion bob blwyddyn? Darllenwch y chwedl i ddod o hyd i'r ateb.

Roedd gan y Brenin Uthr, Uchel Frenin Prydain, ac Eigyr fab o'r enw Arthur. Cafodd ei eni mewn cyfnod peryglus iawn pan oedd y Sacsoniaid yn ymosod ar Brydain. Rhoddodd y Brenin Uthr ei fab bychan i'w ddewin, Myrddin, er mwyn iddo fod yn ddiogel. Tyfodd Arthur i fyny gyda'i frawd maeth, Cai. Ddaeth Arthur fyth i wybod pwy oedd ei rieni go iawn.

Pan fu farw'r Brenin Uthr, doedd neb yn gwybod bod ganddo fab. Felly, roedd pawb yn dadlau ynghylch pwy ddylai fod yn Uchel Frenin Prydain. Yn sydyn, trwy hud, ymddangosodd carreg ryfedd gyda chleddyf enfawr yn gwthio allan ohoni ym mynwent Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain. Roedd neges ar y garreg. Roedd yn dweud mai pwy bynnag fyddai'n tynnu'r cleddyf o'r garreg fyddai gwir Uchel Frenin Prydain. Ceisiodd sawl brenin lleol dynnu'r cleddyf allan ond methu a wnaeth pob un.

Flynyddoedd yn ddiweddarach pan oedd Arthur ar ei ffordd i'w dwrnamaint cyntaf (lle mae marchogion yn ymarfer ymladd) gyda'i frawd maeth, Cai, cafodd ei hun mewn trwbl oherwydd ei fod wedi anghofio cleddyf Cai. Gwelodd Arthur gleddyf yn y garreg a thynnodd hi allan yn hawdd. Rhoddodd Arthur y cleddyf i Cai. Sylwodd Cai ar y neges ac roedd pawb eisiau cael gwybod pwy oedd wedi tynnu'r cleddyf o'r garreg. Doedd neb yn credu ar y dechrau bod Arthur wedi gwneud hyn. Ond gwnaeth hyn eto. Roedd pawb yn rhyfeddu!

Cafodd Arthur ei goroni'n Frenin a bu Myrddin, y dewin yn helpu'r Brenin Arthur i reoli Prydain. Aeth ag ef at lyn hud a lledrith. Roedd ffrind Myrddin, 'Iarlles y Llyn' yn byw yno o dan y dŵr. Rhoddodd hi gleddyf hud i Arthur o'r enw Caledfwlch. Bu sawl brwydr, ond gyda chymorth Caledfwlch enillodd Arthur bob un ohonyn nhw.

Sefydlodd Arthur ei balas brenhinol yng Nghamelod. Priododd â thywysoges o'r enw Gwenhwyfar, ac fel anrheg briodas, rhoddodd ei thad ford gron enfawr iddyn nhw.

Roedd pob marchog yn y wlad eisiau bod yn filwr i'r Brenin Arthur. Roedd y rhai mwyaf dewr ohonyn nhw yn cael eistedd wrth y ford gron. Roedden nhw'n cael eu hadnabod fel 'Marchogion y Ford Gron'. Bu Arthur a Marchogion y Ford Gron yn ymladd yn erbyn y Sacsoniaid mewn sawl brwydr. Gorchfygon nhw'r Sacsoniaid o'r diwedd ym Mrwydr Mynydd Baddon. Roedd pawb yn hapus ac yn teimlo'n ddiogel eto.

Tra roedd Arthur i ffwrdd yn ymladd yn yr Eidal, syrthiodd y Frenhines Gwenhwyfar mewn cariad gyda Syr Lawnslot. Dywedodd Mordred, nai'r Brenin Arthur, wrth Arthur beth oedd yn digwydd. Rhedodd Lawnslot a Gwenhwyfar i ffwrdd i Lydaw (yn Ffrainc). Roedd Arthur eisiau cosbi Lawnslot a Gwenhwyfar ac felly aeth â'i fyddin dros y Sianel i Lydaw.

Gadawodd Arthur ei nai Mordred i ofalu am y wlad tra roedd ef i ffwrdd yn Llydaw. Gan nad oedd plant gan Arthur, Mordred oedd yn mynd i etifeddu'r deyrnas pan fyddai Arthur yn marw; ond doedd e ddim yn gallu aros. Dywedodd Mordred wrth bawb fod y Brenin Arthur wedi cael ei ladd wrth ymladd yn Llydaw. Credodd y bobl ef a gwnaeth Mordred ei hun yn Uchel Frenin Prydain.

Yn ffodus, clywodd Arthur beth oedd yn digwydd. Daeth yn ôl i Brydain gyda'i fyddin. Bu byddinoedd Arthur a Mordred yn ymladd ym Mrwydr Camlan. Yn anffodus, doedd Caledfwlch, ei gleddyf, ddim gydag Arthur. Lladdodd Arthur Mordred, ond cafodd ei glwyfo'n dost ei hun.

Roedd Arthur yn gwybod ei fod yn mynd i farw. Rhoddodd Galedfwlch i Bedwyr a dweud wrtho am fynd ag ef yn ôl i'r llyn hudol. Fe wnaeth Bedwyr gymryd arno i wneud yr hyn a ddywedwyd wrtho; ond cuddiodd y cleddyf o dan lwyn yn lle ei daflu i'r llyn. Gofynnodd Arthur i Bedwyr beth a ddigwyddodd pan daflodd y cleddyf i'r llyn. Dywedodd Bedwyr ei fod wedi suddo.

Roedd Arthur yn gwybod ei fod yn dweud celwydd a dywedodd wrtho daflu'r cleddyf i'r llyn. Pan daflodd Bedwyr y cleddyf i'r llyn, gwelodd law 'Iarlles y Llyn' yn codi o'r dŵr i ddal y cleddyf. Yna, cyrhaeddodd tair brenhines mewn cwch a mynd ag Arthur i ffwrdd i Ynys Afallon. Credir ei fod wedi marw yno yn fuan wedyn.

Pan fyddwch chi'n darllen chwedlau dydych chi ddim yn gallu credu popeth. Beth am geisio darganfod faint o'r chwedl sy'n wir? Does neb yn gwybod i sicrwydd a oedd y Brenin Arthur yn bod mewn gwirionedd ond mae rhai storïau ardderchog amdano ef a'i lys. Allwch chi ddod o hyd i enwau lleoedd yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r brenin nerthol hwn a'i ddewin Myrddin? (e.e. Caerllion, Caerfyrddin, Llyn Llydaw).

Brenin Arthur

Defnyddiwch gorneli'r tudalennau i ddarllen y llyfr.

Gweithgareddau ⇓