Mae hwn yn syniad ardderchog! Yn bendant mae angen adeiladu gorsaf drenau yng Nghaerllion a gwneud gwelliannau i orsafoedd rhwng Casnewydd a'r Fenni.
cuddio
Dim ond 500m metr o'r campws fydd yr orsaf drenau newydd a bydd yn fy arbed i rhag teithio oriau ar y bws bob dydd o Bont-y-pŵl.
cuddio
Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd yr orsaf drenau newydd yn rhy agos at y gweddillion Rhufeinig a bydd yn cael effaith ar fy ngwaith. Rydyn ni'n dal i ddod o hyd i hen adfeilion Rhufeinig yn y dref ac o'i chwmpas.
cuddio
Bu "cynnydd sylweddol" yn y defnydd a wneir o'r rheilffordd rhwng Casnewydd a'r Fenni yn ddiweddar a byddai gorsaf reilffordd newydd yng Nghaerllion yn bendant yn cynyddu elw. Byddai hefyd yn cynnal trafnidiaeth werdd / trafnidiaeth gynaliadwy.
cuddio
Yn ôl Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru, mae tua 70,000 o bobl ar hyn o bryd yn ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yng Nghaerllion bob blwyddyn. Byddai modd dyblu'r niferoedd yma os byddai gorsaf reilffordd newydd yn agor yn y dref.
cuddio
Mae'r orsaf reilffordd newydd yn rhy agos at afon Wysg. Bydd yn creu llygredd aer a sŵn ar y llwybrau troed ger yr afon. Rydw i'n cerdded y llwybrau hyn dair gwaith yr wythnos gyda fy nghi. Yn ddiweddar fe wnaeth archeolegwyr ddarganfod porthladd Rhufeinig ar lannau'r afon Wysg ar gyrion y dref.
cuddio
Dewiswch un safbwynt neu fwy a'u llusgo i'r blychau uchod.
Dadleuwch eich achos PAM y dylai'r cynnig /na ddylai'r cynnig gael ei dderbyn gan yr adran gynllunio/y gymuned leol.