Canolfan Peniarth

Canolfan Peniarth

Beth sy'n achosi llifogydd?

Mae llifogydd yn digwydd am resymau gwahanol. Weithiau mae'r môr yn codi a'r llanw'n taro dros y waliau. Mae hyn yn digwydd yn aml mewn tywydd stormus.

Weithiau dydy afon ddim yn gallu ymdopi gyda swm y dŵr sy'n draenio iddi o'r tir cyfagos. Mae'r afon yn gorlifo ei glannau ac yn llifo dros yr ardal o'i chwmpas.

Weithiau mae gormod o law i'r tir ei dderbyn a'r draeniau i ymdopi ag ef.

Tasg

Mae tri llun yn dangos gwahanol fathau o lifogydd heddiw. Llusgwch y lluniau i'r blychau cywir.

Da iawn, rydych chi wedi cyfateb y tri llun!

Ymlaen i'r Adran Nesaf →

Afon cyn llif

Arfordir cyn llif

Glawiad trwm