C
Y
N
L
L
U
N

Canolfan Peniarth

Astudiwch gynllun y maes pebyll newydd

Beth ydy'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig i ddatblygu maes pebyll newydd ger yr afon?

Cyn penderfynu, ymchwiliwch y safbwyntiau gwahanol canlynol.

O blaid

Yn erbyn

Safbwynt 1 Safbwynt 2 Safbwynt 3 Safbwynt 4 Safbwynt 5 Safbwynt 6

Ffermwr: Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd y maes pebyll wedi ei leoli nesaf at fy nghaeau i ger yr afon. Mae'r gwartheg yn y caeau yn ystod misoedd yr haf. Mae digon o feysydd pebyll o gwmpas ac yn y pentref yn barod.

cuddio

Canŵydd: Mae hwn yn gynnig ardderchog. Mae'n anodd cyrraedd yr afon o'r meysydd pebyll eraill. Weithiau mae'n rhaid i mi gario'r canŵ am gryn bellter o'r maes parcio i'r afon.


cuddio

Pysgotwr: Dydw i ddim o blaid y cynnig oherwydd bydd y maes pebyll wedi ei leoli yn rhy agos at yr afon. Mae'r caeau hyn wedi bod o dan ddŵr yn y gorffennol. Bydd y maes pebyll yn cynyddu sŵn ac o bosib yn llygru'r afon a bydd hyn yn cael effaith ar y bywyd gwyllt, yn arbennig ar y pysgod.

cuddio

Person sy'n byw yn lleol: Mae digon o dwristiaid yn ymweld â'r pentref. Does dim angen maes pebyll arall. Mae'r llwybrau troed ger yr afon eisoes dan eu sang yn ystod y tymor gwyliau. Weithiau mae twristiaid yn taflu sbwriel ar y llwybrau hyn ac i'r afon.

cuddio

Cerddwr brwd: Cerddwr brwd: Bydd y maes pebyll yn denu ymwelwyr oherwydd ei fod ger yr afon a bydd y llwybrau troed/llwybrau yn hygyrch iawn i gerddwyr. Bydd hefyd yn cynyddu ecodwristiaeth oherwydd bydd y twristiaid yn gallu gadael eu ceir ar y maes pebyll.

cuddio

Landlord tafarn: Mae angen maes pebyll arall yn y pentref. Mae'r twristiaid yn cwyno bob blwyddyn bod yn rhaid iddyn nhw wersylla milltiroedd/km lawer o'r pentref oherwydd bod y meysydd pebyll presennol yn llawn. Bydd maes pebyll newydd yn denu mwy o dwristiaid i'r pentref.

cuddio

Dewiswch un safbwynt neu fwy a'u llusgo i'r blychau uchod.

Ewch ati i ddadlau eich achos ynghylch PAM y dylai'r cynnig gael ei dderbyn/ei wrthod gan yr adran gynllunio/y gymuned leol.