Ydych chi erioed wedi clywed y dywediad mai ci ydy ffrind gorau dyn? Ffrind gorau pob gwraig hefyd o ran hynny. Mae'r rhan fwyaf o gŵn yn ffyddlon iawn a byddan nhw'n gwarchod eu perchnogion gyda phob blewyn o'u corff. Gall stori o amser maith yn ôl eich helpu o bosib i ddeall hyn.
Un bore, aeth Llywelyn, Tywysog Cymru allan i hela gyda'i ddynion. Roedd e wrth ei fodd yn hela a physgota. Roedd mab bach gyda'r tywysog o'r enw Dafydd. Roedd ganddo gi ffyddlon iawn hefyd o'r enw Gelert. Doedd hwn ddim yn gi cyffredin. Bleiddgi Gwyddelig hardd oedd e. Roedd pawb yn gwybod ei fod yn gi ffyddlon, amyneddgar a theyrngar. Roedd Llywelyn yn ymddiried yn Gelert i warchod ei fab.
Ond roedd anifail arall hefyd yn gwylio o'r caeau. Gwelodd y Tywysog a'i ddynion yn gadael ar gefn eu ceffylau. Llyfodd ei weflau. Roedd e'n heliwr amyneddgar. Sleifiodd yn dawel drwy'r borfa. Oedodd ychydig. Roedd yn rhaid iddo aros ei gyfle. Roedd e'n gallu gweld bod drws y caban hela yn gilagored. Gwthiodd ef â'i drwyn.
Ffroenodd y blaidd yr awyr. Bu bron i'r arogleuon o'r gegin dynnu ei sylw. Ond roedd y llwybr i'r gegin yn rhy beryglus. Roedd oedolion o gwmpas y lle. Roedd e'n gallu gweld ffordd haws o lawer o gael bwyd i'w genawon bach. Roedd Dafydd yn cysgu'n drwm. Cripiodd yn ei flaen.
Trodd Dafydd yn ei gwsg. Roedd hyn yn ddigon i rybuddio Gelert. Ysgyrnygodd ar y blaidd mawr. Syllodd y ddau anifail ar ei gilydd. Camodd y blaidd yn nes at Dafydd. Dyma'r arwydd i Gelert lamu. Dechreuon nhw ymladd yn ffyrnig. Tarodd cynffon y blaidd y crud. Dim ond un fyddai'n gallu ennill.
Daeth y Tywysog Llywelyn a'i wŷr adref. Roedden nhw'n edrych ymlaen at wledd fawr. Ond wrth i Lywelyn groesi'r iard gwelodd ôl gwaed ymhobman. Parlyswyd ef gan ofn. 'Beth sydd wedi digwydd?' gofynnodd i'w ddynion. Roedd e'n gallu gweld corff Gelert wedi ei orchuddio â gwaed yn gorwedd ar draws y drws.
Edrychodd y tywysog yn ystafell Dafydd. Roedd y crud ben i waered a doedd dim golwg o'i fab yn unman. 'Sut gallet ti wneud hyn? Rwyt ti wedi lladd fy mab!' arthiodd ar Gelert. Yn ei ddicter, hyrddiodd y tywysog ei gleddyf i ochr y ci.
Ymhen ychydig eiliadau clywodd Llywelyn gri gwan. Yng nghornel yr ystafell, gwelodd Dafydd yn pipo o dan y blancedi. Rhaid bod Gelert wedi ei lusgo yno'n ofalus i'w guddio rhag ofn y byddai blaidd arall yn ymosod. Roedd corff blaidd marw yn gorwedd ger y crud. Gwaeddodd Llywelyn yn llawen. Roedd ei etifedd yn ddiogel. Ond yna trodd a gweld ei ffrind gorau, yn farw gelain.
Roedd Llywelyn yn llawen iawn bod Dafydd yn ddiogel. Ond roedd yn torri ei galon am yr hyn a wnaeth. Sut gallai ef fod wedi amau ei ffrind ffyddlon? Gosododd Llywelyn garreg wrth afon Glaslyn, er mwyn i bobl gofio am Gelert. Gellir gweld bedd Gelert hyd at y dydd heddiw. A dyna'n wir a roddodd yr enw i'r pentref.
Pan fyddwch chi'n darllen chwedlau dydych chi ddim yn gallu credu popeth. Beth am geisio darganfod faint o'r chwedl sy'n wir? Er enghraifft, allwch chi ddod o hyd i hanesion gwahanol sy'n dweud ai palas, pabell neu gaban hela oedd cartref Llywelyn ym mryniau Eryri? Ydy pentref Beddgelert wedi ei enwi ar ôl Gelert mewn gwirionedd?
Defnyddiwch gorneli'r tudalennau i ddarllen y llyfr.