Treigladau
Chwiliwch am y treigladau a lliwiwch nhw:
1
- treiglad meddal
- treiglad trwynol
- treiglad llaes
Dileu Lliwiau
Gwelais i ddwy ferch yn gadael yn gynnar. Roedd un ohonyn nhw'n gwisgo sanau ac esgidiau coch am ei thraed. Gwisgais i fy nghot ar unwaith i fynd ar eu hôl achos roeddwn i wedi gweld y bechgyn yng nghanol maes parcio'r dref hefyd. Roedd hi'n dechrau tywyllu a doedd hi ddim yn ddiogel i ferched ifanc fod allan yn hwyr yn y nos.