Dan Draed
Mae gan Dan freuddwyd, sef y bydd, un dydd yn llwyddo. Ond tydi llwyddo ddim yn hawdd pan mae'r byd yn eich erbyn, ac mae'r byd wedi bod yn erbyn Dan, ers y diwrnod iddo gael ei eni a'i enwi, gan ei fam, yn Dan Draed Davies. Er mwyn llwyddo mae'n rhaid iddo gael arian, a tydi hynny ddim yn hawdd, fel mae ei fam yn mynnu ei atgoffa drwy'r amser, "Tydi arian ddim yn tyfu ar goed!" Ond tybed all Dan lwyddo, a'i phrofi hi a phawb arall yn anghywir?