Mae rhai adeiladau'n torri ar draws cyfnodau, fel tai hanesyddol. Er enghraifft, er bod plasty Erddig wedi'i adeiladu ym 1684 yn ystod cyfnod y Stiwartiaid, rydyn ni'n edrych ar rai o'r bobl a fu'n gweithio yno yn y 1790au a degawd cyntaf y ddeunawfed ganrif.
Mae gan leoedd eraill hanes hir iawn sy'n dyddio nôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Gallwch weld Castell Caerdydd, er enghraifft, yn y categori Aml Gyfnod.
Rydyn ni wedi gosod rhai o'r safleoedd yn y cyfnod pan ddaethon nhw'n enwog, er eu bod yn cael eu meddiannu cyn i'r cyfnod hwnnw ddechrau. Er enghraifft, mae Mynydd Parys a Chastell Cyfarthfa wedi'u cynnwys yng nghyfnod Victoria, sef o 1837 i 1901. Serch hynny, roedd gwaith cloddio copr ar Fynydd Parys wedi dechrau ym 1768 ac roedd Castell Cyfarthfa wedi'i godi ym 1825.
Rydyn ni hefyd wedi cynnwys ambell adeilad modern ond yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud am gyfnodau cynharach. Er enghraifft, yn 2006 y cafodd Gerddi Coffa Hendy-gwyn ar Daf eu hagor, ond rydyn ni'n edrych ar yr hyn maen nhw'n ei ddysgu am fywyd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol.
Mae nifer o amgueddfeydd sy'n rhan o Amgueddfa Cymru y gallech ymweld â nhw er mwyn cael rhagor o wybodaeth am hanes Cymru. Mae rhai o'r rhain yn y categori Aml Gyfnod. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Cymru: https://amgueddfa.cymru/