1Bryn-celli-ddu
Mae'r beddrod Neolithig hwn ar Ynys Môn yn bwysig am mai dyma un o adeiladau hynaf Cymru. Cadw yw'r sefydliad sy'n gofalu amdano, ac maen nhw'n dweud mai dyma ateb Cymru i Gôr y Cewri, a'r bedd cyntedd pwysicaf yn Ewrop.
Bryn-celli-ddu
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Oes Haearn
2Castell Caerdydd
Mae Castell Caerdydd yn bwysig am ei fod yn unigryw yng Nghymru – gwlad y cestyll.
Bu pobl yn codi ceyrydd a chestyll yn yr ardal hon am fod yma le da i fasnachu ac i ddangos eich cyfoeth a'ch grym.
Castell Caerdydd
3Adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, Caerdydd
Ym 1998, pleidleisiodd pobl Cymru o drwch blewyn o blaid cael rhai rhannau o lywodraeth ar wahân i Loegr. Gwelir hyn yn ddatganoli.
Adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, Caerdydd
4Yr M4 a Phontydd Hafren
Mae ffyrdd a phontydd yn bwysig am eu bod yn galluogi pobl a phethau i deithio o'r naill le i'r llall. Cafodd y Bont Hafren gyntaf ei chodi ym 1966 yn lle'r gwasanaeth fferi rhwng Aust a Beachley.
Yr M4 a Phontydd Hafren
5Llyn Cerrig Bach
Llyn bach ar Ynys Môn yw Llyn Cerrig Bach a does dim byd cyffrous i'w weld yno. Ond mae'n bwysg iawn am mai yma y daeth gweithwyr o hyd i fwy na 150 o wrthrychau hynafol pan oedden nhw'n adeiladu maes awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Llyn Cerrig Bach
6Cofeb Genedlaethol Glowyr Cymru
Mae Cofeb Genedlaethol Glowyr Cymru'n bwysig am ei bod yn cofio bywydau'r rhai a gafodd eu lladd yn y 152 o drychinebau mewn glofeydd yng Nghymru. Mae'r gofeb ym mhentref Senghennydd, lle digwyddodd y drychineb fwyaf mewn glofa yn hanes Prydain, ym 1913.
Cofeb Genedlaethol Glowyr Cymru
7Erddig, Wrecsam
Mae Erddig wedi'i ddisgrifio fel trysor ymysg plastai gwledig Cymru, ac un sy'n hoff gan bawb. Mae'n bwysig am ei fod yn darlunio bywyd pobl gyfoethog a thlawd mewn plasty gwledig dros 250 o flynyddoedd yn ôl.
Erddig, Wrecsam
8Tiger Bay, Caerdydd
Yn ôl yr hanesydd Neil Sinclair, Tiger Bay yw'r unig le ym Mhrydain lle gallwch chi weld 'y byd i gyd mewn un filltir sgwâr’. Mae pobl wedi dod o bedwar ban byd i fyw ac i weithio yn yr ardal, a dyma'r gymuned aml-ethnig hynaf yn y wlad.
Tiger Bay, Caerdydd
9Amgueddfa a Chaer Rufeinig Caerllion
Tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl, cododd y Rhufeiniaid nifer o geyrydd a gwersylloedd yng Nghymru. Caerllion oedd eu caer bwysicaf, gan reoli mynediad i'r De.
Amgueddfa a Chaer Rufeinig Caerllion
10Big Pit, Blaenafon
Helpodd y bobl fu'n gweithio gynt yn ardal Blaenafon a'r cylch i sicrhau mai Prydain oedd y wlad fwyaf cyfoethog a grymus yn y byd. Fe wnaethon nhw hyn drwy greu haearn a thrwy gloddio am lo.
Big Pit, Blaenafon
11Rheilffordd yr Wyddfa
Ydych chi'n hoffi her? Beth am ddringo mynydd uchaf Cymru? Yr Wyddfa yn Eryri yw'r copa uchaf yn y wlad ac mae'n 1085 metr uwchlaw lefel y môr.
Dros y canrifoedd, mae llawer o bobl wedi dringo'r Wyddfa.
Rheilffordd yr Wyddfa
12Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful
Cafodd Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful ei godi ym 1825 i deulu cyfoethog iawn o'r enw Crawshay, perchnogion un o weithfeydd haearn y dref. Mae'n bwysig am mai hwn yw'r un gorau o blastai'r meistri haearn sydd wedi goroesi yng Nghymru.
Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful
13Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw'r llyfrgell bwysicaf yng Nghymru, a hynny am fod ganddi filiynau o lyfrau, cerddi, lluniau, mapiau a ffilmiau sy'n sôn am hanes Cymru a bywyd ynddi. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol hawl i gael copi am ddim o bopeth sy'n cael ei gyhoeddi yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
14Stadiwm Principality, Caerdydd
Ers iddo agor ym 1999, mae'r Stadiwm yn bwysig am mai dyma gartref tîm rygbi Cymru. Yma hefyd mae'r tîm pêl-droed cenedlaethol wedi chwarae rhai o'u gemau ac mae digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal, fel cyngherddau gan bobl fel y Manic Street Preachers a One Direction.
Stadiwm Principality, Caerdydd
15Cyfnewidfa Lo Bae Caerdydd
Mae'r adeilad hwn yn bwysig am mai dyma brif ganolfan byd busnes Cymru ar un adeg. Yma roedd dynion busnes, rheolwyr glofeydd ac asiantau llongau'n cyfarfod i brynu a gwerthu glo.
Cyfnewidfa Lo Bae Caerdydd
16Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn bwysig am mai yma y gallwch weld rhai o gasgliadau gorau'r wlad o gelf a astudiaethau natur. Mae mwy na 500 o beintiadau, darluniau, cerfluniau a gweithiau seramig o Gymru a ledled y byd.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
17Eglwys Gadeiriol Llandaf
Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf yn bwysig am ei bod yn un o adeiladau crefyddol hynaf Cymru. Mae Cristnogion yn addoli yn yr Eglwys Gadeiriol ers tua 1500 o flynyddoedd.
Eglwys Gadeiriol Llandaf
18Amgueddfa Werin Sain Ffagan
Mae Amgueddfa Werin Sain Ffagan yn bwysig am ei bod yn un o'r amgueddfeydd awyr agored gorau yn Ewrop. Mae mwy na 40 o adeiladau yno, a'r rheiny wedi'u casglu o wahanol rannau o Gymru ac wedi'u codi o'r newydd.
Amgueddfa Werin Sain Ffagan
19Synagog Unedig Caerdydd
Mae'r Synagog yn bwysig gan ei bod yn cael ei defnyddio gan un o'r cynulleidfaoedd Iddewig hynaf yng Nghymru a'r unig un sydd â rabi (gweinidog) amser-llawn ac sy'n agored er mwyn i Iddewon weddïo bron bob dydd o'r wythnos. Mae yna synagog yng Nghaerdydd ers mwy na 150 o flynyddoedd.
Synagog Unedig Caerdydd
20Ynys y Barri
Mae Ynys y Barri'n bwysig oherwydd ers y 1870au dyma un o'r atyniadau pwysicaf i dwristiaid yng Nghymru. Mae ymwelwyr yn mwynhau'r traeth, y caffis ac adloniant i'r teulu.
Ynys y Barri
21Castell Caerffili
Mae Castell Caerffili yn bwysig am mai dyma'r castell mwyaf yng Nghymru, a'r ail fwyaf ym Mhrydain, ar ôl Castell Windsor. Hwn hefyd oedd y castell consentrig cyntaf ym Mhrydain.
Castell Caerffili
22Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn bwysig am ei fod yn adrodd stori'r diwydiant glo, a drodd Brydain yn un o wledydd mwyaf grymus y byd. Roedd angen glo i yrru ffatrïoedd, llongau, trenau a thai.
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
23Gardd Goffa Aber-fan
Mae Gardd Goffa Aber-fan yn bwysig am ei bod yn ein hatgoffa am un o storïau tristaf y genedl. Am 9:15 ar fore dydd Gwener, 21 Hydref 1966, yn sgil glaw trwm roedd d?r yn cronni ar ben tomen lo.
Gardd Goffa Aber-fan
24Stadiwm Liberty a Copperopolis, Abertawe
Mae Stadiwm Liberty'n bwysig am mai dyna gartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, yr unig dîm o Gymru sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, a'r Gweilch, un o'r pedwar tîm rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Cafodd y Stadiwm ei agor yn 2005 yn ardal Gland?r yn Abertawe.
Stadiwm Liberty a Copperopolis, Abertawe
25Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn bwysig am ei bod yn adrodd hanes diwydiant yng Nghymru dros y 300 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn rhoi lle amlwg i bethau pob dydd sydd wedi'u gwneud yng Nghymru, fel sugnwyr llwch, teganau a chyfrifiaduron.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
26Castell Carreg Cennen
Castell Carreg Cennen yw un o'r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Mae'n cael ei ddangos yn aml ar galendrau, posteri a gwybodaeth arall i dwristiaid i ddenu ymwelwyr.
Castell Carreg Cennen
27Plas a Gerddi Aberglasne
Mae Aberglasne'n bwysig am mai dyma un o erddi hanesyddol gorau Cymru – o leiaf saith gant oed. Yn oes y Tuduriaid, disgrifiodd y bardd Lewis Glyn Cothi naw gardd, perllannau a llyn yn Aberglasne.
Plas a Gerddi Aberglasne
28Parc Dinefwr, T? Newton
Ar un adeg, roedd y tir lle mae Parc Dinefwr a Th? Newton yn perthyn i un o deuluoedd pwysicaf Cymru'r Oesoedd Canol. Dinefwr oedd enw teyrnas teulu Rhys, sef Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Sir Frycheiniog erbyn hyn.
Parc Dinefwr, T? Newton
29Plas Llanelly
Mae Plas Llanelly yn bwysig am ei fod o gryn ddiddordeb hanesyddol. Yn ôl yr archaeolegwyr mae'n bosibl bod t? Tuduraidd yma ar un adeg, ond yn y 1770au y cafodd y t? presennol ei adeiladu.
Plas Llanelly
30Castell Cydweli
Mae Castell Cydweli'n bwysig am ei fod yn dangos sut mae cestyll wedi newid dros y blynyddoedd. Pridd a phren oedd castell cynharaf y Normaniaid yma, tua 1115 OC.
Castell Cydweli
31Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
Mae Coleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan yn bwysig am mai dyna brifysgol hynaf Cymru. Erbyn hyn mae'n rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
32Harbwr Abergwaun
Mae Harbwr Abergwaun yn bwysig am ei fod wedi caniatáu i'r fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon gyflymu. Roedd rheilffordd y Great Western yn mynd â nwyddau a theithwyr i'r porthladd i gael eu cludo mewn llong.
Harbwr Abergwaun
33T?'r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod
Mae T?'r Masnachwr Tuduraidd yn Ninbych-y-pysgod ymysg y tai Tuduraidd pwysicaf yn y Deyrnas Unedig. Mae'n cael ei adnabod fel amgueddfa fyw, sy'n golygu bod gwirfoddolwyr, mewn dillad o oes y Tuduriaid, yn eich tywys o amgylch y t?.
T?'r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod
34Castell Penfro
Un o'r rhesymau am bwysigrwydd Castell Penfro yw mai dyna fan geni Harri Tudur, brenin cyntaf y Tuduriaid. Cafodd ei eni yma ar 28 Ionawr 1457 ond cafodd ei symud i gastell Rhaglan pan oedd yn bedair oed.
Castell Penfro
35Siambr Gladdu Pentre Ifan
Mae Pentre Ifan yn bwysig am mai dyma'r maen claddu, neu gromlech, mwyaf yng Nghymru, ac un o'r hynaf. Mae'r capfaen neu'r garreg uchaf yn pwyso dros 16 tunnell ac yn 5 metr (16 troedfedd 6 modfedd) o hyd a 2.
Siambr Gladdu Pentre Ifan
36Carchar Rhuthun
Yn 2016, enillodd Carchar Rhuthun gystadleuaeth i ddod o hyd i Drysor Cudd Cymru. Dyma'r unig garchar hanesyddol o'i fath yng Nghymru sy'n agored i ymwelwyr.
Carchar Rhuthun
37Traphont Dd?r Pontcysyllte, Wrecsam
Mae Traphont Dd?r Pontcysyllte ymysg y prosiectau peiriannu mwyaf rhyfeddol i gael eu cwblhau yng Nghymru. Thomas Telford, peiriannydd enwog, a adeiladodd y draphont dd?r ym 1805.
Traphont Dd?r Pontcysyllte, Wrecsam
38Plas Mawr, Conwy
Mae Plas Mawr yn bwysig am ei fod yn un o'r tai mwyaf ysblennydd sydd wedi goroesi yng Nghymru ers dyddiau Elisabeth I. Cafodd ei godi rhwng 1576 a 1585 ar ran Robert Wynn, masnachwr a diplomydd cefnog iawn.
Plas Mawr, Conwy
39Gr?p Cytiau Mynydd Twr
Mae Gr?p Cytiau Mynydd Twr yn bwysig am mai dyma un o aneddiadau hynaf Cymru – tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae rhyw 20 o dai a gweithdai crwn.
Gr?p Cytiau Mynydd Twr
40Bryngaer Tre'r Ceiri, Nefyn
Mae Bryngaer Tre’r Ceiri yn bwysig am mai dyma un o'r bryngaerau gorau sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Mae yma fwy na 150 o dai carreg o fewn muriau carreg, a'r rheiny bron yn 4 metr (13 troedfedd) o uchder mewn mannau.
Bryngaer Tre'r Ceiri, Nefyn
41Chwarel y Penrhyn
Mae Chwarel Lechi'r Penrhyn yn bwysig am mai hi oedd y chwarel lechi fwyaf yn y byd ar un adeg. Cafodd llechi eu defnyddio gan y Rhufeiniaid yn eu caer yn Segontium (Caernarfon) a chan y bobl a fu'n codi cestyll yn yr Oesoedd Canol.
Chwarel y Penrhyn
42Chwarel Dinorwig, Llanberis
Mae Chwarel Dinorwig yn bwysig am mai hi oedd yr ail chwarel lechi fwyaf yn y byd, ar ôl Penrhyn ychydig filltiroedd i ffwrdd. Yn y 1880au, roedd rhyw 3,000 o ddynion yn cael eu cyflogi yma.
Chwarel Dinorwig, Llanberis
43Castell a Muriau Tref Conwy
Mae castell a muriau tref Conwy yn bwysig am eu bod yn rhan o un o'r trefi canoloesol gorau sydd wedi goroesi yn Ewrop. Mae'n dal yn bosibl gweld sut roedd y muriau'n arfer gwarchod y castell drwy edrych ar sut maen nhw'n amgylchynu tref Conwy heddiw.
Castell a Muriau Tref Conwy
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Canoloesol
44Pier Llandudno
Mae Pier Llandudno yn bwysig am mai dyna'r pier hiraf yng Nghymru (700 metr) a'r pumed hiraf ym Mhrydain. Mae adeilad y Pier wedi'i warchod yn arbennig ac mae llawer yn credu mai dyma'r pier gorau o oes Fictoria sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Pier Llandudno
45Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn bwysig am mai hi yw'r eglwys gadeiriol leiaf ym Mhrydain. Mae rhannau hynaf yr adeilad presennol tua 700 mlwydd oed.
Eglwys Gadeiriol Llanelwy
46Castell Biwmares
Mae Castell Biwmares yn bwysig am ei fod yn enghraifft wych o gastell consentrig (castell o fewn castell). Castell Biwmares oedd castell olaf a chryfaf Edward I yn ei ymgais i goncro'r Gogledd.
Castell Biwmares
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Canoloesol
47Capel a Ffynnon Gwenffrewi
Mae Capel a Ffynnon Gwenffrewi yn bwysig am eu bod yn ganolfan pererindod (sef siwrnai i safle crefyddol arbennig) ers 1300 o flynyddoedd. Cafodd y ffynnon ei henwi ar ôl Cymraes Gristnogol o'r seithfed ganrif, Gwenffrewi.
Capel a Ffynnon Gwenffrewi
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Canoloesol
48Amgueddfa Wl�n Cymru, Dre-fach Felindre
Mae Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, yn bwysig am fod yr amgueddfa'n adrodd hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru. Mae'r amgueddfa wedi'i lleoli mewn hen felin wlân sy'n dal i weithio, ‘Melin Teifi’ (un o hen felinau'r Cambrian), a oedd ar un adeg yn gartref i ddiwydiant gwlân ffyniannus.
Amgueddfa Wl�n Cymru, Dre-fach Felindre
49Abaty Ystrad-fflur
Mae Abaty Ystrad-fflur yn bwysig am ei fod yn un o'r abatai hynaf ym Mhrydain. Cafodd ei sefydlu yn y ddeuddegfed ganrif gan fynachod Sistersaidd ac roedd yn cael ei adnabod fel 'Abaty San Steffan Cymru'.
Abaty Ystrad-fflur
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Canoloesol
50Castell Henllys
Mae Castell Henllys yn bwysig am mai dyma'r unig bentref Oes Haearn ym Mhrydain sydd wedi'i ailgodi ar yr union safle lle roedd ein cyndeidiau Celtaidd yn byw 2,400 o flynyddoedd yn ôl. Y sgubor ac un o'r hen dai crwn yw'r ailgreadau hynaf o adeiladau cynhanesyddol ym Mhrydain.
Castell Henllys
51Abaty Talyllychau
Mae Abaty Talyllychau yn bwysig am mai dyma'r unig abaty yng Nghymru a oedd yn perthyn i gr?p arbennig o fynachod o'r enw ‘Canoniaid Gwyn' (gair arall am offeiriad yw 'canon'). Oherwydd eu dillad gwyn y cawson nhw'r enw.
Abaty Talyllychau
52Cenarth - Y Ganolfan Cwryglau Genedlaethol
Mae'r Ganolfan Cwryglau Genedlaethol yng Nghenarth yn bwysig am ei bod yn dweud wrthym ni am stori'r cwrwgl, cwch bach crwn sydd â thraddodiad hir yng Nghymru.
Cwch bach heb gêl yw cwrwgl, ac mae'n cael ei ddefnyddio at bysgota a chludo pethau.
Cenarth - Y Ganolfan Cwryglau Genedlaethol
53Gerddi Coffa Hendy-gwyn
Mae Gerddi Coffa Hendy-gwyn yn bwysig am eu bod yn coffáu tywysog arbennig iawn, sef Hywel Dda. Roedd Hywel am i Gymru gael ei rheoli gan Dywysog o Gymro ac nid gan frenin o Sais.
Gerddi Coffa Hendy-gwyn
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
CC BY-SA 2.0
Canoloesol
54Cartref Dylan Thomas
Dylan Thomas Boat House is important because Dylan Thomas, the famous Welsh writer and poet, lived in this house during the 20th century.
It was in the Boat House that Dylan Thomas wrote his most famous play, ‘Under Milk Wood’.
Cartref Dylan Thomas
55Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi'n bwysig achos i lawer o Gristnogion dyma'r lle mwyaf sanctaidd yng Nghymru. Yma y cafodd mynachlog ei sefydlu yn y chweched ganrif gan Dewi Sant, nawddsant Cymru.
Eglwys Gadeiriol Tyddewi
56Pont y Borth, Ynys M�n
Mae Pont y Borth yn bwysig oherwydd cyn iddi gael ei hadeiladu roedd rhaid croesi Afon Menai mewn cwch i fynd yn ôl ac ymlaen i Sir Fôn. Ym 1785, cafodd 54 o bobl eu boddi ar ôl i'w cwch gael ei ddal ar far tywod yng nghanol y Fenai a throi drosodd.
Pont y Borth, Ynys M�n
57Segontium, Caernarfon
Tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl, cododd y Rhufeiniaid lawer o geyrydd a gwersylloedd yng Nghymru. Roedd un o'u ceyrydd pwysicaf yng Nghaernarfon, sef Caer Rufeinig Segontium.
Segontium, Caernarfon
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Rhufeinig
58Castell Caernarfon
Mae Castell Caernarfon yn bwysig am mai dyma gastell mwyaf y brenin Edward I yng Nghymru. Penderfynodd adeiladu'r castell ym 1283 i gadarnhau ei fuddugoliaeth dros Llywelyn, Tywysog Cymru, a'i goncwest yng Ngwynedd.
Castell Caernarfon
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Canoloesol
59Eglwys Gadeiriol Bangor
Mae Eglwys Gadeiriol Bangor yn bwysig am mai dyma un o'n mannau addoli Cristnogol hynaf. Mae hi tua 1500 o mlwydd oed.
Eglwys Gadeiriol Bangor
60Mynydd Parys, Amlwch
Mae Mynydd Parys yn bwysig am mai yma roedd mwyngloddiau copr mwyaf y byd ar un adeg. Roedd copr yn cael ei allforio i lawer o wledydd y byd o'r harbwr bach yn Amlwch.
Mynydd Parys, Amlwch
61Rheilffordd a chwarel Blaenau Ffestiniog
Mae Rheilffordd Ffestiniog yn bwysig am mai dyma'r cwmni rheilffordd annibynnol hynaf yn y byd, sy'n dyddio'n ôl i 1832. Cafodd y rheilffordd ei hadeiladu i gludo llechi o'r chwareli yn ardal Blaenau Ffestiniog i harbwr Porthmadog.
Rheilffordd a chwarel Blaenau Ffestiniog
62Castell Penrhyn, Bangor
Mae Castell Penrhyn yn bwysig am ei fod yn ein hatgoffa am gysylltiadau Cymru â chaethwasiaeth. Roedd perchnogion castell Penrhyn, teulu Pennant, yn enwog am ei chwareli llechi yn y Gogledd.
Castell Penrhyn, Bangor
63Mwynglawdd Copr Penygogarth
Mae Mwynglawdd Copr Penygogarth yn bwysig am ei fod yn fwynglawdd copr Fictorianaidd anhygoel sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd, dros 4000 o flynyddoedd yn ôl, tua'r un cyfnod ag adeiladu Côr y Cewri. Dyma'r mwynglawdd mwyaf o'r Oes Efydd yn y byd hefyd.
Mwynglawdd Copr Penygogarth
64Castell y Bere, Llanfihangel-y-pennant
Mae Castell y Bere yn bwysig am ei fod wedi'i godi gan un o dywysogion mwyaf grymus Cymru - Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr). Fe gododd y castell er mwyn cadw ei awdurdod dros y bobl leol ac amddiffyn ei diroedd yng Ngwynedd.
Castell y Bere, Llanfihangel-y-pennant
65Tryweryn, y Bala
Mae yna leoedd yng Nghymru sy'n bwysig yn symbolaidd. Efallai nad oes llawer i'w weld yno, ond mae'r enw ei hun yn codi teimladau cryf.
Tryweryn, y Bala
66Ffermdy T? Mawr Wybrnant, Betws-y-coed
Mae T? Mawr Wybrnant yn bwysig am mai dyma'r ffermdy lle cafodd yr Esgob William Morgan ei eni ym 1545. Ym 1588, daeth yr Esgob William Morgan y person cyntaf i gyfieithu'r Beibl cyfan i'r Gymraeg.
Ffermdy T? Mawr Wybrnant, Betws-y-coed
Y ddelwedd drwy garedigrwydd:
© Crown copyright
Tuduraidd / Stiwartaidd
67Crochendy Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Crochendy Ewenni'n bwysig heddiw am mai dyna'r crochendy hynaf sy'n dal yn gweithio yng Nghymru. Mae'r crochendy'n perthyn i'r un teulu ers dechrau'r ddeunawfed ganrif! Pan oedd busnes yn dda, roedd gan ardal Ewenni 15 o grochendai.
Crochendy Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr
68Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm yn bwysig am ei fod yn ein hatgoffa bod yna wersylloedd i garcharorion rhyfel yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Er hynny, digwyddodd rhywbeth anghyffredin iawn yn y gwersyll ym 1945! Ar noson 10-11 Mawrth, dihangodd 70 o garcharorion Almaenig drwy dwnnel.
Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr
69Goleudy Trwyn yr As Fach
Mae Goleudy Trwyn yr As Fach yn bwysig am ei fod yn dweud wrthym ni am hanes morwrol Cymru. Dyma'r goleudy olaf yng Nghymru lle roedd gwylwyr yn gweithio cyn iddo fynd yn awtomatig ym 1998.
Goleudy Trwyn yr As Fach
70Llancaiach Fawr
Mae Llancaiach Fawr yn bwysig am ei fod yn un o'r enghreifftiau gorau yng Nghymru heddiw o blasty lled-gaerog o oes y Tuduriaid. Mae'n d? cadarn: mae'r waliau'n bedair troedfedd (1.
Llancaiach Fawr
71Llyn Syfaddan, Aberhonddu
Mae Llyn Syfaddan yn bwysig iawn am mai dyma'r llyn naturiol mwyaf yn y De a hefyd am fod yno safle treftadaeth unigryw: ‘Crannog’. Ynys artiffisial fach yw'r crannog, tua 40 metr o'r lan.
Llyn Syfaddan, Aberhonddu
72Castell Powis
Mae Castell Powis yn bwysig am mai dyma'r unig gastell mewn meddiant Cymreig ers y dechrau sydd wedi bod yn gartref drwy gydol ei hanes. Er bod yna dwmpath i gastell cynnar iawn yn agos i'r safle presennol, cafodd hwnnw ei godi yn y drydedd ganrif ar ddeg yn breswylfod brenhinol i Owain, Tywysog Powys.
Castell Powis
73Clawdd Offa (Trefyclo)
Mae Clawdd Offa yn bwysig am mai dyma'r heneb hiraf ym Mhrydain. Mae'n un o gampau peirianegol mawr y cyfnod cyn-ddiwydiannol.
Clawdd Offa (Trefyclo)
74Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Roedd Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn bwysig iawn yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn cludo glo, calchfaen, mwyn haearn a nwyddau eraill i'r dociau i ddechrau eu siwrnai o gwmpas y byd.
Camlas Mynwy ac Aberhonddu
75Canolfan Owain Glynd?r, Machynlleth
Mae Canolfan Owain Glynd?r yn bwysig am ei bod wedi'i chodi ar safle'r senedd enwog a gafodd ei chynnal ym 1404. Yn y senedd honno, cafodd Owain Glynd?r ei goroni'n Dywysog Cymru.
Canolfan Owain Glynd?r, Machynlleth
76Pentref Canoloesol Cosmeston
Mae Pentref Canoloesol Cosmeston yn bwysig am mai dyma un o'r ailgreadau hanesyddol mwyaf realistig o fywyd pentref yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Daethpwyd o hyd i weddillion y pentref yn y 1980au, yn ystod cloddfa archaeolegol yn yr ardal o gwmpas Llynnoedd Cosmeston.
Pentref Canoloesol Cosmeston
77Castell Cas-gwent
Mae Castell Cas-gwent yn bwysig am mai dyma'r castell carreg hynaf sydd wedi goroesi ym Mhrydain. Hwn hefyd yw'r castell cyntaf y byddwch yn ei weld wrth ddod i Gymru o dde Lloegr.
Castell Cas-gwent
78Gwaith Haearn Sirhywi
Mae Gwaith Haearn Sirhywi yn bwysig am mai dyna'r gwaith haearn cyntaf yng Ngwent (Sir Fynwy) i gael ei danio â golosg yn lle siarcol.
Ym 1778, sefydlodd y brodyr Homfray y ffwrnais gyntaf yng Ngwaith Haearn Sirhywi.
Gwaith Haearn Sirhywi
79Arfordir Treftadaeth G?yr gan gynnwys Ogof Pen-y-fai, y Mwmbwls
Ar Arfordir Treftadaeth G?yr y cafodd un o ganfyddiadau archaeolegol pwysicaf y byd ei ddarganfod, sef sgerbwd dyn o Oes y Cerrig, 34,000 o flynyddoedd yn ôl! Dyma'r ffosil dynol cyntaf i gael ei ddarganfod unrhyw le yn y byd!
Ym 1823, mewn ogof ar yr arfordir, sef Ogof Pen-y-fai (Ogof Paviland), daeth William Buckland o hyd i sgerbwd oedolyn, heb ben, wedi'i liwio ag ocr coch ac wedi'i gladdu ynghyd â nwyddau wedi'u gwneud o gerrig, cyrn carw ac ifori. Gyda'r sgerbwd cafodd hyd i fwclis o gregyn.
Arfordir Treftadaeth G?yr gan gynnwys Ogof Pen-y-fai, y Mwmbwls
80Parc Gwledig Margam
Mae Parc Gwledig Margam yn bwysig am fod ganddo'r orendy hiraf ym Mhrydain (99.67 metr o hyd!).
Parc Gwledig Margam
81Rhaeadrau Aberdulais, Castell-nedd
Mae Rhaeadr Aberdulais yn bwysig nid yn unig am mai dyma un o'r rhaeadrau harddaf yn y De ond am fod ganddi hanes rhyfeddol hefyd - dros 400 mlynedd o dreftadaeth ddiwydiannol! Mae rhaeadr Aberdulais wedi cael ei defnyddio i smeltio copr, gweithio haearn, creu tecstilau, malu ?d a gwneud alcam. Cafodd y rhaeadr ei defnyddio fel ffynhonnell ynni i yrru'r olwyn dd?r i gynhyrchu trydan.
Rhaeadrau Aberdulais, Castell-nedd