Esboniad 1
Esboniad 2
Esboniad 3

Gweithgaredd 50

Ysgrifennwch y darn canlynol fel petai Dafydd yn ysgrifennu yn ei ddyddiadur. Rhaid i chi newid y darn i'r person cyntaf, fel bod Dafydd yn siarad am ei brofiadau.

O'r diwedd, cyrhaeddodd y diwrnod mawr. Roedd Dafydd wrth ei fodd ac roedd o mor gyffrous! Heno, byddai o'n cysgu yn ei gartref newydd am y tro cyntaf, ond, roedd rhaid iddo fo symud ei ddodrefn o gartref ei rieni i'r fflat newydd. Roedd o wedi trefnu popeth. Roedd Dylan, ei frawd, yn mynd i symud ei ddodrefn yn fan y cwmni. Cariodd Dafydd a Dylan y cyfan i'r fan a dechreuon nhw ar eu taith fer, Dylan yn y fan a Dafydd yn ei gar bach coch.

O'r diwedd, cyrhaeddodd y diwrnod mawr. Roeddwn i wrth fy modd ac roeddwn i mor gyffrous. Heno, byddw'n i'n cysgu yn fy nghartref newydd am y tro cyntaf, ond, rhaid symud fy nodrefn o gartref fy rhieni i'r fflat newydd. Roeddwn i wedi trefnu popeth. Roedd Dylan, fy mrawd, yn mynd i symud fy nodrefn yn fan y cwmni. Carion ni'r cyfan i'r fan a dechreuon ni ar ein taith fer, Dylan yn y fan a fi yn fy nghar bach coch.