Gweithgaredd 42

Ailysgrifennwch y darn yma drwy droi'r ffurfiau lluosog yn ffurfiau unigol.

Cododd y merched yn gynnar. Bwyton nhw frecwast cyflym a rhedon nhw i lawr i'r harbwr. Roedd cychod bach yn dawnsio ar wyneb y dŵr glas, clir. Roedd y dynion oedd yn gofalu amdanynt yn eistedd ar y cei yn darllen eu papurau newydd.

"Esgusodwch ni," meddai un o'r merched, "hoffen ni fynd allan am dro yn y cychod."

"Hoffech chi wir? Ydych chi'n gallu talu? Oes arian gennych chi?"

"Oes, wrth gwrs," atebon ni.