Esboniad 1
Esboniad 2
Esboniad 3
Esboniad 4
Esboniad 5
Esboniad 6
Esboniad 7

Gweithgaredd 39

Newidiwch 'chi' > 'ti'. Byddwch yn ofalus. Oes angen newid unrhyw beth arall?

Mae'n bwysig gwrando ar yr arholwr a byddwch yn ofalus rhag ofn i chi ruthro eich ateb. Bydd yr arholwr yn gofyn sawl cwestiwn i chi, ac yn gofyn eich barn am y ddrama. Dylech chi ofyn iddo ailadrodd y cwestiwn os oes angen help. Fydd e ddim yn gallu ateb drostoch chi. Gofynnwch unrhyw gwestiynau yn gwrtais ond yn glir. Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb am sicrhau eich bod yn deall popeth. Pob lwc! Chewch chi ddim cyfle arall!

Mae'n bwysig gwrando ar yr arholwr a bydd yn ofalus rhag ofn i ti ruthro dy ateb. Bydd yr arholwr yn gofyn sawl cwestiwn i ti, ac yn gofyn dy farn am y ddrama. Dylet ti ofyn iddo ailadrodd y cwestiwn os oes angen help. Fydd e ddim yn gallu ateb drostot ti. Gofynna unrhyw gwestiynau yn gwrtais ond yn glir. Arnat ti mae'r cyfrifoldeb am sicrhau dy fod yn deall popeth. Pob lwc! Chei di ddim cyfle arall!