Canolfan Peniarth

GWASANAETHU ADDYSG YNG NGHYMRU

Nôl i Restr Polisiau / Back to Policy List

Polisi Preifatrwydd - Ap Dewin a Doti

Mae Canolfan Peniarth, sy’n cynnal y rhaglen hon ar ran y Mudiad Meithrin, yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gydymffurfio â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

Nid yw’r Mudiad Meithrin na Chanolfan Peniarth yn casglu unrhyw ddata defnyddwyr drwy’r rhaglen hon heblaw’r hyn a ddarperir ar ffurf data dadansoddi drwy’r App Store y caiff yr ap ei lawrlwytho ohoni. Mae’r data hwnnw’n cynnwys, ymysg pethau eraill, sawl gwaith y caiff ap ei lawrlwytho, y gwledydd y tarddodd y lawrlwythiadau ohonynt, y dyfeisiau a ddefnyddiwyd i lawrlwytho’r ap a meddalwedd y System Weithredu y mae’r ddyfais yn ei rhedeg. Mae’r data hwn yn breifat i aelodau staff y Mudiad Meithrin a Chanolfan Peniarth sy’n ymwneud â chreu, cynnal a marchnata’r ap yn unig, a chaiff ei ddefnyddio o wneud gwelliannau i’r ap ac i ddylanwadu ar ddatblygu rhagor o apiau neu apiau yn y dyfodol.

Gall fod yn ofynnol i’r Mudiad Meithrin a Chanolfan Peniarth rannu data gyda Llywodraeth Cymru, sydd wedi ariannu datblygiad yr ap yn rhannol, a hynny er mwyn monitro defnydd yr ap. Fe allai hynny hefyd ddylanwadu ar ddatblygu rhagor o apiau neu apiau yn y dyfodol. Bydd unrhyw ddata a fydd yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru bob amser yn ddienw ac yn cael ei agregu.

O dro i dro, gall fod yn ofynnol i’r Mudiad Meithrin neu Ganolfan Peniarth ddiweddaru’r Polisi Preifatrwydd hwn. Bydd unrhyw ddiweddariad ar y polisi yn cael ei grybwyll yn nisgrifiad yr ap yn yr App Store (yn achos iOS) ac yn Google Play Store (yn achos Android). Eich cyfrifoldeb chi fydd darllen y fersiwn diweddaraf.

Privacy Policy - Dewin a Doti App

Canolfan Peniarth, the maintainer of this application on behalf of Mudiad Meithrin, is part of The University of Wales Trinity Saint David, which is legally obliged to comply with the provisions of the Data Protection Act 1998.

Neither Mudiad Meithrin nor Canolfan Peniarth collect any user data from this application aside from that which is provided as analytic data through the App Store from which the app is downloaded. This data includes, but is not limited to, the number of times an app is downloaded, the countries of origin for the downloads, the devices used to download the app and the Operating System software the device is running. This data is private only to the staff members of Mudiad Meithrin and Canolfan Peniarth involved in the creation, maintenance and marketing of the app, and will be used to make improvements to the app and influence development of further or future apps.

Mudiad Meithrin and Canolfan Peniarth may be required to share data with Welsh Government, who have part funded the development of the app, for the purpose of monitoring its usage, which, again, may influence the development of further or future apps. Any data shared with Welsh Government will always be aggregated and anonymous.

From time to time, Mudiad Meithrin or Canolfan Peniarth may be required to update this Privacy Policy. Any updates to the policy will be mentioned on the app's description in the App Store (for iOS) and Google Play Store (for Android). It will be your responsibility to read the latest version.