Canolfan Peniarth

GWASANAETHU ADDYSG YNG NGHYMRU

Nôl i Restr Polisiau / Back to Policy List

Polisi Preifatrwydd - Apiau Caneuon Cŵl

Mae Canolfan Peniarth yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd dan ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998.

Nid yw Canolfan Peniarth yn casglu unrhyw ddata defnyddwyr ac eithrio'r data hynny a ddefnyddir gan Google fel arfer ar gyfer dadfygio a dadansoddi demograffig. Mae'r data hyn yn breifat i'r aelodau staff hynny o Ganolfan Peniarth sy'n ymwneud â chreu, cynnal a marchnata'r ap, ac fe'u defnyddir i wneud gwelliannau i'r ap ac i ddylanwadu ar ddatblygu apiau pellach neu apiau'r dyfodol.

Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i Ganolfan Peniarth rannu data â Llywodraeth Cymru, sydd wedi cyllido'r gwaith o ddatblygu'r ap yn rhannol, at ddibenion monitro'r defnydd ohono, ac unwaith eto gallai hyn ddylanwadu ar ddatblygu apiau pellach neu apiau'r dyfodol. Bydd unrhyw ddata a rennir â Llywodraeth Cymru bob amser yn gyfanredol ac yn ddi-enw.

Mae'r caniatâd Mynediad Rhwydwaith yn ofynnol er mwyn i chi, y defnyddiwr, lawrlwytho'r caneuon sy'n gysylltiedig â'r ap. Bydd ein gweinydd yn cadw cofnod o gyfeiriad IP eich dyfais ar yr adeg y byddwch yn lawrlwytho cân benodol. Os bydd unrhyw gamau lawrlwytho'n arwain at wall, cofnodir hyn yn log gwallau ein gweinydd, er ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth i'ch adnabod; y gwall ei hun yn unig a gofnodir. Mae'r caniatâd yn ofynnol hefyd er mwyn gwirio a ydych wedi'ch cysylltu â Wi-Fi neu â data symudol ac, yn achos yr olaf, er mwyn gofyn i chi a ydych yn dymuno parhau i lawrlwytho cân benodol, oherwydd gallai hyn beri costau, yn ddibynnol ar gynllun eich dyfais symudol.

O dro i dro, mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i Ganolfan Peniarth ddiweddaru'r Polisi Preifatrwydd hwn. Sonnir am unrhyw ddiweddariadau i'r polisi ar ddisgrifiad yr ap yn yr App Store (ar gyfer iOS) a Google Play Store (ar gyfer Android). Eich cyfrifoldeb chi fydd darllen y fersiwn diweddaraf.

Privacy Policy - Caneuon Cŵl Apps

Canolfan Peniarth is part of The University of Wales Trinity Saint David, which is legally obliged to comply with the provisions of the Data Protection Act 1998.

Canolfan Peniarth does not collect any user data aside from that which is normally used by Google for debugging and demographic analysis. This data is private only to the staff members of Canolfan Peniarth involved in the creation, maintenance and marketing of the app, and will be used to make improvements to the app and influence development of further or future apps.

Canolfan Peniarth may be required to share data with Welsh Government, who have part funded the development of the app, for the purpose of monitoring its usage, which, again, may influence the development of further or future apps. Any data shared with Welsh Government will always be aggregated and anonymous.

The Network Access permission is required for you, the user, to download the songs associated with the app. Our server will keep a record of your device's IP address at the time of you downloading a given song. If any download action results in an error, this will be recorded in our server's error logs, though this will not include any identifiable information; only the actual error will be recorded. The permission is also required for checking to see whether you are connected to Wi-Fi or mobile data and, if the latter is the case, asking you if you wish to continue with downloading a given song, as this may incur costs depending on your mobile plan.

From time to time, Canolfan Peniarth may be required to update this Privacy Policy. Any updates to the policy will be mentioned on the app's description in the App Store (for iOS) and Google Play Store (for Android). It will be your responsibility to read the latest version.