add new note

Ychwanegu nodiadau: Gwasgwch y botwm gwyrdd i ychwanegu nodyn newydd, ac yna teipio nodiadau ynddo. Gallwch wneud cymaint o nodiadau ag sydd eu hangen arnoch! I ddileu nodyn, cliciwch ar y botwm (x) ar y nodyn. Bydd eich nodiadau yn cael eu cadw pan fyddwch yn adnewyddu'r dudalen, ond os byddwch chi'n cau'ch porwr neu'n defnyddio cyfrifiadur gwahanol, byddwch yn colli’r nodiadau! Gwasgwch y botwm glas, uchod, i gadw ffeil testun o'ch nodiadau. Pan fyddwch chi wedi gorffen, pwyswch y botwm oren i leihau'r nodiadau.

Gweithgareddau

  1. Wyt ti’n gallu clywed sŵn
  2. Bobl bach
  3. Maen nhw’n gwisgo hetiau pigog dillad sgleiniog a sandalau.
  4. Maen nhw’n edrych am soser hedfan yn yr awyr
  5. Maen nhw’n byw yn apan.
yn dynn yn llonydd yn hapus yn dawel yn ofnus
Mae Yohei ac Yoko yn rhedeg o gwmpas yr ardd
ac yn swnllyd oherwydd maen nhw’n mwynhau chwarae gyda’i gilydd. Yna, maen nhw’n clywed sŵn gwich uchel yn torri ar draws y tawelwch ac maen nhw’n stopio chwarae. Maen nhw’n sefyll
, heb symud o gwbl. Mae Yohei yn pwyntio i’r awyr ac mae’n sibrwd
, “Edrycha Yoko.”
Mae hi’n gafael
yn ei fraich. “Bobl bach. Soser hedfan!” mae hi’n dweud
“Beth sy’n digwydd?”

Gan ddefnyddio meddalwedd addas:

  • gwnewch lun lliwgar o fod estron
  • rhowch enw iddo
  • dywedwch o ble mae’n dod
  • ysgrifennwch ddarn i ddisgrifio’r bod estron.

Yna, cyflwynwch y bod estron i’ch partner chi.

Beth am wneud arddangosfa liwgar o fodau estron y dosbarth?