Ychwanegu nodiadau: Gwasgwch y botwm gwyrdd i ychwanegu nodyn newydd, ac yna teipio nodiadau ynddo. Gallwch wneud cymaint o nodiadau ag sydd eu hangen arnoch! I ddileu nodyn, cliciwch ar y botwm (x) ar y nodyn. Bydd eich nodiadau yn cael eu cadw pan fyddwch yn adnewyddu'r dudalen, ond os byddwch chi'n cau'ch porwr neu'n defnyddio cyfrifiadur gwahanol, byddwch yn colli’r nodiadau! Gwasgwch y botwm glas, uchod, i gadw ffeil testun o'ch nodiadau. Pan fyddwch chi wedi gorffen, pwyswch y botwm oren i leihau'r nodiadau.
Chwiliwch am wybodaeth i ddarganfod:
Partner 1: |
Chwiliwch am luniau eraill gan Meirion Jones a dewiswch un. Dywedwch wrth eich partner chi pa fath o luniau mae Meirion Jones yn eu peintio. Dangoswch y llun rydych chi wedi ei ddewis i’ch partner a dywedwch pam rydych chi wedi dewis y llun hwn. Disgrifiwch y llun. |
Partner 2: |
Chwiliwch am luniau eraill gan Aneurin Jones a dewiswch un. Dwedwch wrth eich partner chi pa fath o luniau roedd Aneurin Jones yn eu peintio. Dangoswch y llun rydych chi wedi ei ddewis i’ch partner a dywedwch pam rydych chi wedi dewis y llun hwn. Disgrifiwch y llun. |
Atebwch y cwestiynau hyn:
Beth sy’n digwydd mewn eisteddfod heddiw?
Trafodwch hyn mewn grŵp.
Gwnewch boster i hysbysebu eisteddfod. Gallwch chi ddewis eisteddfod leol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, neu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.