add new note

Ychwanegu nodiadau: Gwasgwch y botwm gwyrdd i ychwanegu nodyn newydd, ac yna teipio nodiadau ynddo. Gallwch wneud cymaint o nodiadau ag sydd eu hangen arnoch! I ddileu nodyn, cliciwch ar y botwm (x) ar y nodyn. Bydd eich nodiadau yn cael eu cadw pan fyddwch yn adnewyddu'r dudalen, ond os byddwch chi'n cau'ch porwr neu'n defnyddio cyfrifiadur gwahanol, byddwch yn colli’r nodiadau! Gwasgwch y botwm glas, uchod, i gadw ffeil testun o'ch nodiadau. Pan fyddwch chi wedi gorffen, pwyswch y botwm oren i leihau'r nodiadau.

Gweithgareddau

Cywir Anghywir
Ffrwyth yw’r tomato, nid llysieuyn.
Mae’r rhan fwyaf o domatos yn goch ond mae rhai’n ddu, yn binc, yn borffor neu’n wyn.
Mae tomatos heb eu coginio yn well i chi na thomatos wedi eu coginio.
Mae tua 10,000 o wahanol fathau o domatos.
Mewn gŵyl arbennig yn Sbaen bob blwyddyn, mae 40,000 o bobl yn taflu tua 150,000 o domatos at ei gilydd.
Cymru yw’r wlad sy’n cynhyrchu’r nifer mwyaf o domatos.
Yn 1984, roedd dros 12 miliwn o hadau tomato yn hedfan o gwmpas y Ddaear mewn lloeren.
Mae pob plentyn yn hoffi tomatos!