Eisiau darllen hyn mewn iaith arall?

English

Cyflwyniad

Gwlad fach sy'n llawn hanes yw Cymru. Mae'r wefan hon yn sôn ychydig am 81 o'r lleoedd pwysicaf yn hanes Cymru. Mae wedi bod yn anodd dewis a dethol lleoedd i'w cynnwys a lleoedd i beidio â'u cynnwys. Wrth inni greu'n rhestr, fe fuon ni'n pwyso a mesur nifer o gwestiynau; er enghraifft:

Roedden ni am sicrhau bod yna leoedd o rannau gwahanol o Gymru ac o gyfnodau gwahanol mewn hanes. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys mathau gwahanol o leoedd, fel cestyll, tai a mannau addoli. Fe ofynnwyd i arbenigwyr a phanel o athrawon roi eu barn hefyd.

Efallai y gallwch chi feddwl am leoedd a ddylai fod ar y rhestr ond sy ddim arni. Dyna beth sy'n gwneud hanes mor ddiddorol.

Symud o gwmpas y wefan hon

Cliciwch ar yr eicon yn y ddewislen ar y brig er mwyn gweld a chwilio rhestr o'r lleoedd sydd wedi'u plotio ar y map. Gallwch glicio ar gerdyn disgrifiad pob lle er mwyn symud canol y map i orwedd ar y lle ei hun. Gallwch chi hefyd er mwyn gweld rhestr o'r safleoedd yn yr adnodd hwn fesul ardal.

Hofranwch dros rif lle ar y map er mwyn gweld ei enw. Cliciwch ar y rhif i weld y canlynol:

Pam mae'r safle hwn yn bwysig? Mae hyn yn esbonio pam mae'r lle'n bwysig o safbwynt hanes. Oeddech chi'n gwybod? Mae hyn yn datgelu ffaith anghyffredin am y lle neu'r cyfnod. Pethau i'w gwneud Cliciwch yma i wneud gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r lle. Rhagor o ymchwil Mae hyn yn awgrymu gwefannau a syniadau i fynd ar eu hôl.

O ran canllaw bras, mae gan y lleoedd ar y wefan hon god lliw yn ôl pa bryd mewn hanes roedden nhw'n bwysig, a gallwch weld hyn yn y tabl isod:

Cyfnod Blynyddoedd Lliw
Aml Gyfnod - - -
Cynhanesyddol Cyn 4500-750 CC
Oes Haearn 750-55 CC
Rhufeinig 43-410
Canoloesol 410-1485
Tuduraidd / Stiwartaidd 1485-1714
Sioraidd/Fictoraidd 1714-1901
Modern 1901-heddiw

Mae'n bosibl hidlo'r lleoedd yn ôl cyfnodau amser hefyd. Er enghraifft, bwriwch eich bod chi am ddysgu am y Rhufeiniaid. Cliciwch ar yr hidlydd 'Rhufeinig' ac fe welwch chi fod dau le wedi'u hamlygu:

9 Amgueddfa a Chaer Rufeinig Caerllion 57 Segontium, Caernarfon

Dyw hi ddim yn hawdd gosod lleoedd mewn categorïau amser. i gael gweld pam!

Mae rhai adeiladau'n torri ar draws cyfnodau, fel tai hanesyddol. Er enghraifft, er bod plasty Erddig wedi'i adeiladu ym 1684 yn ystod cyfnod y Stiwartiaid, rydyn ni'n edrych ar rai o'r bobl a fu'n gweithio yno yn y 1790au a degawd cyntaf y ddeunawfed ganrif.

Mae gan leoedd eraill hanes hir iawn sy'n dyddio nôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Gallwch weld Castell Caerdydd, er enghraifft, yn y categori Aml Gyfnod.

Rydyn ni wedi gosod rhai o'r safleoedd yn y cyfnod pan ddaethon nhw'n enwog, er eu bod yn cael eu meddiannu cyn i'r cyfnod hwnnw ddechrau. Er enghraifft, mae Mynydd Parys a Chastell Cyfarthfa wedi'u cynnwys yng nghyfnod Victoria, sef o 1837 i 1901. Serch hynny, roedd gwaith cloddio copr ar Fynydd Parys wedi dechrau ym 1768 ac roedd Castell Cyfarthfa wedi'i godi ym 1825.

Rydyn ni hefyd wedi cynnwys ambell adeilad modern ond yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud am gyfnodau cynharach. Er enghraifft, yn 2006 y cafodd Gerddi Coffa Hendy-gwyn ar Daf eu hagor, ond rydyn ni'n edrych ar yr hyn maen nhw'n ei ddysgu am fywyd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol.

Mae nifer o amgueddfeydd sy'n rhan o Amgueddfa Cymru y gallech ymweld â nhw er mwyn cael rhagor o wybodaeth am hanes Cymru. Mae rhai o'r rhain yn y categori Aml Gyfnod. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Amgueddfa Cymru: https://amgueddfa.cymru/

Hidlo fesul Sir

RhifEnwCyfnodSirDolen i Wybodaeth
1 Parc Gwledig Margam Sioraidd/Fictoraidd Gorllewin Morgannwg
2 Rhaeadrau Aberdulais, Castell-nedd Sioraidd/Fictoraidd Gorllewin Morgannwg
3 Arfordir Treftadaeth Gŵyr gan gynnwys Ogof Pen-y-fai, y Mwmbwls Cynhanesyddol Gorllewin Morgannwg
4 Castell Cas-gwent Canoloesol Morgannwg Ganol
5 Gwaith Haearn Sirhywi Sioraidd/Fictoraidd Morgannwg Ganol
6 Pentref Canoloesol Cosmeston Canoloesol De Morgannwg
7 Canolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth Canoloesol Powys
8 Camlas Mynwy ac Aberhonddu Sioraidd/Fictoraidd Powys
9 Castell Powis Tuduraidd / Stiwartaidd Powys
10 Clawdd Offa (Trefyclo) Canoloesol Powys
11 Llyn Syfaddan, Aberhonddu Cynhanesyddol Powys
12 Llancaiach Fawr Tuduraidd / Stiwartaidd Morgannwg Ganol
13 Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm, Pen-y-bont ar Ogwr Modern Morgannwg Ganol
14 Goleudy Trwyn yr As Fach Sioraidd/Fictoraidd Morgannwg Ganol
15 Crochendy Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr Sioraidd/Fictoraidd Morgannwg Ganol
16 Tryweryn, y Bala Modern Gwynedd
17 Ffermdy T&ycirc Mawr Wybrnant, Betws-y-coed Tuduraidd / Stiwartaidd Gwynedd
18 Mwynglawdd Copr Penygogarth Sioraidd/Fictoraidd Clwyd
19 Castell y Bere, Llanfihangel-y-pennant Canoloesol Gwynedd
20 Castell Penrhyn, Bangor Sioraidd/Fictoraidd Gwynedd
21 Rheilffordd a chwarel Blaenau Ffestiniog Sioraidd/Fictoraidd Gwynedd
22 Eglwys Gadeiriol Bangor Canoloesol Gwynedd
23 Mynydd Parys, Amlwch Sioraidd/Fictoraidd Gwynedd
24 Castell Caernarfon Canoloesol Gwynedd
25 Segontium, Caernarfon Rhufeinig Gwynedd
26 Pont y Borth, Ynys M�n Sioraidd/Fictoraidd Gwynedd
27 Eglwys Gadeiriol Tyddewi Canoloesol Dyfed
28 Cartref Dylan Thomas Modern Dyfed
29 Gerddi Coffa Hendy-gwyn Canoloesol Dyfed
30 Cenarth - Y Ganolfan Cwryglau Genedlaethol Sioraidd/Fictoraidd Dyfed
31 Castell Henllys Oes Haearn Dyfed
32 Abaty Talyllychau Canoloesol Dyfed
33 Amgueddfa Wl�n Cymru, Dre-fach Felindre Sioraidd/Fictoraidd Dyfed
34 Abaty Ystrad-fflur Canoloesol Dyfed
35 Capel a Ffynnon Gwenffrewi Canoloesol Clwyd
36 Castell Biwmares Canoloesol Clwyd
37 Pier Llandudno Sioraidd/Fictoraidd Clwyd
38 Eglwys Gadeiriol Llanelwy Canoloesol Clwyd
39 Chwarel Dinorwig, Llanberis Sioraidd/Fictoraidd Gwynedd
40 Castell a Muriau Tref Conwy Canoloesol Clwyd
41 Bryngaer Tre'r Ceiri, Nefyn Oes Haearn Gwynedd
42 Chwarel y Penrhyn Sioraidd/Fictoraidd Gwynedd
43 Grŵp Cytiau Mynydd Twr Cynhanesyddol Gwynedd
44 Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Wrecsam Sioraidd/Fictoraidd Clwyd
45 Plas Mawr, Conwy Tuduraidd / Stiwartaidd Clwyd
46 Carchar Rhuthun Sioraidd/Fictoraidd Clwyd
47 Castell Penfro Canoloesol Dyfed
48 Siambr Gladdu Pentre Ifan Cynhanesyddol Dyfed
49 T&ycirc'r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod Tuduraidd / Stiwartaidd Dyfed
50 Harbwr Abergwaun Sioraidd/Fictoraidd Dyfed
51 Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan Sioraidd/Fictoraidd Dyfed
52 Castell Cydweli Canoloesol Dyfed
53 Plas Llanelly Sioraidd/Fictoraidd Dyfed
54 Parc Dinefwr, Tŷ Newton Sioraidd/Fictoraidd Dyfed
55 Plas a Gerddi Aberglasne Canoloesol Dyfed
56 Castell Carreg Cennen Canoloesol Dyfed
57 Stadiwm Liberty a Copperopolis, Abertawe Modern Morgannwg Ganol
58 Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe Aml Gyfnod Gorllewin Morgannwg
59 Gardd Goffa Aber-fan Modern Morgannwg Ganol
60 Parc Treftadaeth Cwm Rhondda Sioraidd/Fictoraidd Morgannwg Ganol
61 Castell Caerffili Canoloesol De Morgannwg
62 Ynys y Barri Modern De Morgannwg
63 Amgueddfa Werin Sain Ffagan Aml Gyfnod De Morgannwg
64 Synagog Unedig Caerdydd Sioraidd/Fictoraidd De Morgannwg
65 Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Aml Gyfnod De Morgannwg
66 Eglwys Gadeiriol Llandaf Canoloesol De Morgannwg
67 Cyfnewidfa Lo Bae Caerdydd Sioraidd/Fictoraidd De Morgannwg
68 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aml Gyfnod Dyfed
69 Stadiwm Principality, Caerdydd Modern De Morgannwg
70 Rheilffordd yr Wyddfa Sioraidd/Fictoraidd Gwynedd
71 Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful Sioraidd/Fictoraidd Morgannwg Ganol
72 Big Pit, Blaenafon Sioraidd/Fictoraidd Morgannwg Ganol
73 Tiger Bay, Caerdydd Modern De Morgannwg
74 Amgueddfa a Chaer Rufeinig Caerllion Rhufeinig De Morgannwg
75 Erddig, Wrecsam Modern Clwyd
76 Llyn Cerrig Bach Oes Haearn Gwynedd
77 Cofeb Genedlaethol Glowyr Cymru Modern Dyfed
78 Yr M4 a Phontydd Hafren Modern De Morgannwg
79 Bryn-celli-ddu Oes Haearn Gwynedd
80 Castell Caerdydd Aml Gyfnod De Morgannwg
81 Adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, Caerdydd Modern De Morgannwg

Barod?

Ewch i'r Map