Priod-ddulliau Defnyddiol
(Useful Idioms)
| am wn i |
| as far as i know |
| Does dim cyfarfod yfory am wn i |
| There's no meeting tomorrow as far as I know |
| am y tro |
| for the time being, for now |
| Rwy i'n aros gyda ffrindiau am y tro |
| I'm staying with friends for the time being |
| ar frys |
| in a hurry |
| Alla i ddim aros i siarad, rwy i ar frys |
| I can't stop to talk; I'm in a hurry |
| ar gael |
| to be had, available |
| Mae tocynnau ar gael yn y theatr |
| Tickets are available in the theatre |
| ar ganol |
| in the middle of |
| Roedd gwydryn wedi'i dorri ar ganol y llawr |
| There was broken glass in the middle of the floor |
| ar hyn o bryd |
| at the moment |
| Does neb yma ar hyn o bryd |
| There's no one here at the moment |
| ar unwaith |
| at once |
| Mae rhaid i chi fynd i weld y meddyg ar unwaith |
| You have to go to see the doctor at once |
| ar y cyfan |
| on the whole |
| Aeth popeth yn iawn ar y cyfan |
| Everything went well on the whole |
| beth bynnag |
| however, whatever |
| Rwy i'n mynd beth bynnag mae e'n ei ddweud |
| I'm going whatever he says |
| bob tro |
| every time |
| Bob tro rwy i'n mynd allan i weithio yn yr ardd mae hi'n bwrw glaw |
| Every time I go out to work in the garden it rains |
| cyn bo hir |
| before long |
| Bydd e yn ôl cyn bo hir |
| He'll be back before long |
| diolch byth |
| thank goodness |
| Fydd ddim rhaid i mi ddysgu popeth diolch byth |
| I won't have to learn everything thank goodness |
| dros ben llestri |
| over the top |
| Does dim eisiau mynd dros ben llestri gyda'r goleuadau |
| You don't have to go over the top with the lights |
| drosodd |
| over, finished |
| Ydy popeth drosodd eto? |
| Is everything over yet? |
| erbyn hyn |
| by now |
| Bydd pawb wedi dychwelyd erbyn hyn |
| Everyone will have returned by now |
| gyda'i gilydd |
| together |
| Maen nhw'n gwneud popeth gyda'i gylidd |
| They do everything together |
| gyda llaw |
| by the way |
| Gyda llaw, mae'r ddannodd ar Ann, dyw hi ddim yn gallu dod heno |
| By the way, Ann has toothache; she can't come tonight |
| hyd y gwn i |
| as far as I know |
| Mae popeth yn barod hyd y gwn i |
| Everything is ready, as far as I know |
| i ffwrdd |
| away |
| Pryd mae hi'n mynd i ffwrdd? |
| When is she going away? |
| newydd sbon |
| brand new |
| Prynodd e gar newydd sbon iddi i'w phenblwydd |
| He bought her a brand new car for her birthday |
| o bosib |
| possibly |
| o hyd ac o hyd |
| incessantly |
| Pam mae rhaid iddyn nhw siarad o hyd ac o hyd? |
| Why do they have to talk incessantly? |
| o'r blaen |
| before |
| Ydyn ni wedi cwrdd o'r blaen? |
| Have we met before? |
| o'r diwedd |
| at last |
| Dydd gwener o'r diwedd |
| Friday at last |
| o'r gorau |
| all right |
| rhoi'r gorau i (SM) |
| to give up |
| tipyn bach |
| a little bit |
| tybed |
| I wonder |
| Tybed ble mae Dai wedi mynd? |
| I wonder where Dai has gone? |
| ych a fi! |
| uch! |
| Ych a fi! Mae rhywun wedi gadael eu (ho)sanau yn y sinc |
| Uch! Somebody has left their socks in the sink |