a/ac
In Welsh, a and ac are used as the conjunction 'and'.
a is used before consonants, including words beginning with h.
ac is used before words which begin with a vowel, e.g.
afal ac oren
athro ac athrawes
There are, however, some exceptions:
ac fe / |
Cododd y bachgen yn rhy gyflym ac fe gwympodd ar y llawr. |
ac fel |
Mae’n bwrw eira ac fel hyn y bydd hi am weddill y dydd. |
ac felly |
Mae’r Ganolfan Hamdden yn rhy bell ac felly byddwn yn llogi bws. |
ac mae |
Mae’n amser cinio ac mae’r gloch ar fin canu. |
ac mai |
Oeddech chi’n gwybod bod Elan wedi ymddiswyddo ac mai ym Mai y bydd hi'n gadael? |
ac meddai |
Roedd yr athro cyflenwi’n gwybod ei enw ac meddai, "Bore da, Rhys. Rwyt ti’n hwyr" |
ac mewn |
Bydd angen dilyn y cod ymarfer pan fydd tân ac mewn achosion eraill o argyfwng. |
ac mor |
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle ac mor hapus i dderbyn y swydd! |
ac nid |
Fi oedd yn gywir ac nid yr athrawes. |
ac roedd |
Daeth y cyfarfod i ben ac roedd llawer o bwyntiau heb eu trafod. |
ac rydw |
Rydw i wedi gorffen y gwaith cartref ac rydw i wedi blino! |
ac sydd |
Cadwch restr o’r plant sydd wedi bwyta brechdanau ac sydd hefyd eisiau pwdin. |