Erbyn diwedd yr olygfa, roedd popeth yn glir. Roedd gan Siwan ŵr a chariad. Roedd Gwilym yn gwybod bod Siwan yn briod, ond doedd Llywelyn ddim yn gwybod bod Siwan yn cael perthynas gyda Gwilym, a chafodd sioc pan welodd e nhw gyda'i gilydd. Saunders Lewis ydy awdur y ddrama. Roedd e'n ddramodydd, bardd a nofelydd enwog ac rydyn ni hefyd yn ei gofio am ei ddarlith radio enwog, 'Tynged yr Iaith'.