Cyfres o lyfrau llythrennedd sylfaenol ar gyfer disgyblion sy'n cael anhawster gyda datblygu llythrennedd yw 'Cychwyn Eto'. Mae'r gyfres yn atgyfnerthu sŵn llythrennau a datblygu ymwybyddiaeth ffonetig y dysgwr. Mae'r ugain llyfr wedi eu rhifo a dylid eu darllen yn eu trefn i sicrhau strwythur cynyddol.