Santes Dwynwen

Ydych chi erioed wedi gofyn tybed pam mae rhai pobl yn meddwl bod ynysoedd yn lleoedd hudolus a thawel?

Amser maith yn ôl, yn y 5ed ganrif, roedd gan frenin o'r enw Brychan Brycheiniog (mab Brenin o Iwerddon) 36 o blant. Yn ôl y sôn, Dwynwen oedd un o ferched prydferthaf pedair merch ar hugain Brychan Brycheiniog. Roedden nhw'n byw ym Mrycheiniog.

Syrthiodd Dwynwen mewn cariad gyda dyn ifanc o'r enw Maelon Dafodrill. Roedd hi eisiau priodi Maelon ond yn anffodus roedd ei thad eisoes wedi trefnu ei bod yn priodi rhywun arall.

Roedd Dwynwen yn torri ei chalon. Yn ei gofid a'i thristwch ffodd Dwynwen i'r goedwig, ac yno ymbiliodd ar Dduw i'w helpu i anghofio am Maelon. Ar ôl syrthio i gysgu, daeth angel i ymweld â Dwynwen gan gario diod swyn.

Penderfynodd Dwynwen roi'r ddiod i Maelon. Fodd bynnag, pan yfodd Maelon y ddiod trodd yn dalp o rew!

Wedi gweld beth a ddigwyddodd i Maelon, mae Dwynwen yn gweddïo ar Dduw gan ofyn iddo am dri dymuniad. Ei dymuniad cyntaf oedd bod Maelon yn cael ei ddadmer. Yn ail, bod Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion unrhyw un oedd yn glaf o gariad ac yn drydydd na fyddai hi fyth yn priodi. Cafodd y tri dymuniad eu gwireddu.

Fel arwydd o'i diolch i Dduw, cysegrodd Dwynwen ei hun i wasanaeth Duw am weddill ei bywyd. Felly, hwyliodd i ffwrdd mewn cwch a chafodd ei chludo i ynys fach oddi ar Ynys Môn. Mae'r lle hwnnw yn cael ei adnabod heddiw fel Llanddwyn (eglwys Dwynwen). Arhosodd ar Ynys Llanddwyn oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn fel meudwyes hyd nes iddi farw, tua 460 OC.

Rydych chi'n gallu ymweld ag adfeilion eglwys Dwynwen heddiw ar Ynys Llanddwyn, oddi ar arfordir Ynys Môn. Pan oedd y bardd Dafydd ap Gwilym yn ymweld â'r ynys yn ystod y 14eg ganrif, gwelodd ddelwedd aur o Dwynwen yn yr eglwys.

Church

Mae ffynnon Dwynwen hefyd wedi ei lleoli ar yr ynys, ac ynddi, yn ôl y sôn, mae pysgodyn cysegredig yn nofio, a'i symudiadau yn rhagweld lwc a pherthynas gwahanol gyplau yn y dyfodol. Mae'r rhai sy'n ymweld â'r ffynnon yn credu y bydd cariad a lwc dda yn siŵr o'u canlyn os bydd y dŵr yn berwi pan fyddan nhw'n bresennol.

Mae dydd Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu yng Nghymru ar 25 Ionawr ac mae'n coffáu nawdd sant cyfeillgarwch a chariad.

Pan fyddwch chi'n darllen chwedlau dydych chi ddim yn gallu credu popeth. Beth am geisio darganfod faint o'r chwedl sy'n wir? Er enghraifft, allwch chi ddod o hyd i hanesion gwahanol sy'n dweud a oedd Dwynwen yn byw ar Ynys Llanddwyn ai peidio am weddill ei bywyd? A wnaeth rhai o frodyr a chwiorydd Dwynwen ei dilyn i'r ynys?

Santes Dwynwen

Defnyddiwch gorneli'r tudalennau i ddarllen y llyfr.

Gweithgareddau ⇓

1. Ym mha wlad yn y Deyrnas Unedig y digwyddodd y chwedl?

2. Ble yng Nghymru y digwyddodd y chwedl?

3. Pam mae Ynys Llanddwyn yn bwysig?

4. Beth all ddigwydd o bosib ar Ynys Llanddwyn yn y dyfodol?