1
2
3
4
5
6

Anifeiliad yn hedfan

Darllenwch y testun uchod.

1.

Beth yw prif bwrpas y testun hwn? Ticiwch un.

  • perswadio  
  • gofyn cwestiynau  
  • rhoi gwybodaeth  
  • mynegi barn  
2.

Ticiwch Cywir neu Anghywir.

Mae rhai nadroedd yn gallu teithio drwy ddŵr.

  • Cywir  
  • Anghywir  
2.

Ticiwch Cywir neu Anghywir.

Mae Chrysopelea paradisi yn chwilio am fwyd yn ystod y nos.

  • Cywir  
  • Anghywir  

Diwrnod trwynau coch

Diwrnod trwynau coch

Sut dechreuodd diwrnod trwynau coch?

Ym mis Rhagfyr 1985, roedd newyn ofnadwy yn Ethiopia. Ar ddydd Nadolig, yn fyw ar BBC1, cafodd Comic Relief ei lansio. Roedd y syniad yn syml. Roedd grŵp o ddigrifwyr enwog yn mynd i ddod at ei gilydd i wneud i bobl chwerthin a chasglu arian i helpu’r newynog.

Yna, yn 1988, dechreuodd diwrnod trwynau coch. Y syniad ydy bod pobl yn gwneud rhywbeth digrif ac yn cael hwyl, ac ar yr un pryd, yn codi arian i helpu newid bywyd pobl dlawd. Mae diwrnod trwynau coch yn digwydd bob yn ail flwyddyn.

Pa fath o bethau mae pobl yn eu gwneud am arian?

Dyma rai pethau sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y gorffennol.

  • Cafodd y dŵr ym Mhwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd ei liwio’n goch
  • Cafodd golau coch ei roi ar Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Hefyd, mae rhai pobl yn cael eu noddi i wneud pethau anarferol, e.e.

  • grŵp o blant yn eistedd mewn bath o jeli coch
  • staff y gegin yn gwisgo dillad coch ac yn paratoi pryd o fwyd coch i’r plant
  • pêl-droedwyr clwb Abertawe yn lliwio’u gwallt yn goch yn 2011.

Beth sy’n digwydd ar y teledu?

Ar ddiwrnod trwynau coch mae rhaglen ar y teledu gyda’r nos. Yn 1988 codon nhw £15 miliwn ar y noson. Yn 2013 codon nhw £75 107 851, y swm mwyaf erioed a bron tri chwarter miliwn yn fwy na 2011.

Am fis cyn y diwrnod mawr yn 2013, roedd rhaglen arbennig – Let’s Dance for Comic Relief ar y teledu ar nos Sadwrn. Roedd sêr o Gymru’n bwysig ar y rhaglen deledu yma achos Alex Jones a Steve Jones oedd yn cyflwyno. Mae Steve yn dod o’r Rhondda ac mae Alex yn dod o Rydaman.

I ble mae’r arian yn mynd?

Mae’r arian yn mynd i helpu pobl ym Mhrydain a gwledydd tlawd y byd. Dyma sut mae peth o’r arian yn cael ei wario.

  • Yn Uganda, mae llawer o bobl yn marw o malaria. Mae arian Comic Relief yn prynu rhwydi mosgito.
  • Yn India, mae arian Comic Relief yn talu am loches i blant y stryd.
  • Ym Mhrydain, mae arian Comic Relief yn helpu gofalwyr ifanc.
  • Yn Affrica, mae arian Comic Relief yn adeiladu ysgolion i’r plant.
1.
syniad dechreuodd rhaglen ofnadwy gofalwyr cyflwyno
enw gwrywaidd berf yn yr amser gorffennol enw benywaidd ansoddair enw lluosog berfenw
2.
  • rhoi arian i rywun am wneud rhywbeth  
  • dweud beth rydych yn ei wneud i godi arian  
  • gwneud rhywbeth dwl iawn  
  • rhoi arian i achos da bob mis  
3.
Gair newynog digrifwyr lloches tlawd
Tebyg eu hystyr eisiau bwyd pobl ddoniol lle i gysgodi dim llawer o arian
4.
  • 1988 2011 1985 2013
  •   
  •   
  •   
  •   

Ffonau symudol mewn ysgolion cynradd

Ffonau symudol mewn ysgolion cynradd

Mae llawer iawn o ddadlau ynglŷn â defnydd plant o ffonau symudol. Ym Mhrydain, mae gan dros dri chwarter o blant deg oed ffôn symudol. Hefyd, mae gan ddeg y cant o blant pump oed ffôn personol. Mae rhoi ffôn i blentyn pump oed yn hollol hurt, yn fy marn i.

Ond a ddylai plant fod yn cael mynd â'u ffonau symudol i'r ysgol?

Mae ambell un yn dadlau bod ffonio ac anfon negeseuon testun at ffrindiau yn bwysig. Efallai bod hynny'n wir ar adegau ond does dim angen iddynt ffonio ac anfon negeseuon at ei gilydd yn ystod y diwrnod ysgol. Byddai'n llawer haws ac yn fwy buddiol iddynt siarad â'i gilydd.

Mae rhai rhieni yn awyddus i sicrhau bod eu plant yn gallu cysylltu â nhw ar unrhyw adeg o'r dydd. Dywedodd un tad, "Mae gan fy merch i ffôn symudol fel y gall hi gysylltu â fi mewn argyfwng. Hefyd, rwy'n teimlo ei bod hi'n fwy diogel wrth gerdded adre pan fydd y ffôn ganddi."

Anghytunaf yn llwyr. Pa argyfwng sy'n mynd i ddigwydd i blentyn yn yr ysgol? Pe bai plentyn yn sâl neu'n cael damwain yn yr ysgol, byddai'r staff yn cysylltu â'r rhiant ar unwaith. Fyddai dim angen i'r plentyn gael ffôn, a dwli yw dweud y byddai yn fwy diogel wrth gerdded adre o'r ysgol pe bai ganddo ffôn. Mae cario ffôn yn gallu rhoi plentyn mewn mwy o berygl na bod heb un. Dywed yr heddlu fod canran uchel iawn o droseddau yn erbyn plant yn ymwneud â dwyn ffonau symudol.

Mae llawer iawn o ysgolion cynradd yn gwrthod caniatáu ffonau symudol yn yr ysgol. Credant fod ffonau yn gallu bod yn fater sy'n arwain at gystadleuaeth ymhlith y plant, gyda'r rhai sydd heb ffôn yn teimlo'n israddol. Mae ysgolion yn awyddus i sicrhau bod pawb yn gyfartal. Dyna pam mae ganddynt wisg swyddogol a dyna pam mae cymaint ohonynt yn gwahardd ffonau symudol.

Dangosodd ymchwil diweddar fod tua awr y dydd yn cael ei wastraffu mewn rhai ysgolion oherwydd bod plant yn chwarae â'u ffonau symudol. Dyna reswm da arall dros eu gwahardd o'r ysgol.

Ond, y ddadl gryfaf dros wahardd ffonau symudol o ysgolion cynradd yw bod meddygon yn ofni bod defnyddio ffonau symudol cyn i'r ymennydd orffen datblygu yn beryglus iawn i iechyd plant.

1.

Mae ambell un yn dadlau bod ffonio ac anfon negeseuon testun at ffrindiau yn bwysig. Efallai bod hynny'n wir ar adegau ond does dim angen iddynt ffonio ac anfon negeseuon at ei gilydd yn ystod y diwrnod ysgol. Byddai'n llawer haws ac yn fwy buddiol iddynt siarad â'i gilydd.

2.
Gair dadlau dywedodd anghytunaf credant
Diffiniad berfenw berf unigol yn yr amser gorffennol berf unigol yn yr amser presennol berf luosog
3.

Mae rhai rhieni yn awyddus i sicrhau bod eu plant yn gallu cysylltu â nhw ar unrhyw adeg o'r dydd. Dywedodd un tad, "Mae gan fy merch i ffôn symudol fel y gall hi gysylltu â fi mewn argyfwng. Hefyd, rwy'n teimlo ei bod hi'n fwy diogel wrth gerdded adre pan fydd y ffôn ganddi."

Anghytunaf yn llwyr. Pa argyfwng sy'n mynd i ddigwydd i blentyn yn yr ysgol? Pe bai plentyn yn sâl neu'n cael damwain yn yr ysgol, byddai'r staff yn cysylltu â'r rhiant ar unwaith. Fyddai dim angen i'r plentyn gael ffôn, a dwli yw dweud y byddai yn fwy diogel wrth gerdded adre o'r ysgol pe bai ganddo ffôn. Mae cario ffôn yn gallu rhoi plentyn mewn mwy o berygl na bod heb un. Dywed yr heddlu fod canran uchel iawn o droseddau yn erbyn plant yn ymwneud â dwyn ffonau symudol.

Hanes y trên sgrech

1.

Y reid

Ydych chi erioed wedi bod ar drên sgrech? Does dim byd fel y teimlad rydych chi'n ei gael pan rydych chi'n eistedd mewn cerbyd bach gyda dim ond bar ar draws eich coesau yn dringo'n araf i fyny'r llethr serth. Does dim modd dod allan o'r cerbyd, er eich bod yn gwybod bod dibyn mawr ar ochr arall y copa. Mae'ch calon yn curo fel gordd. Mae'r copa'n dod yn nes ac yn nes, yn nes ac yn nes.

2.
Doedd e ddim yn ddiogel iawn achos weithiau roedd y cerbydau'n syrthio oddi ar y trac!
  • i ddangos bod ofn arno  
  • i ddangos syndod neu sioc  
  • i ddangos bod y reid yn ddiogel  
  • i ddangos bod y reid yn gyffrous  
3.
  • er mwyn dangos ei fod yn edrych ymlaen at gyrraedd y copa  
  • er mwyn dangos ei fod yn hyderus  
  • er mwyn dangos bod ofn arno  
  • er mwyn creu tensiwn  
4.
  • 1. hen
  • 2. uchel
  • 3. byr
  • 4. trwm
  • 5. da

Y cawlach rhyfedda

’Rôl cymysgu'r moron a'r pys a'r perlysiau,

Taflu'r tatws a'r cig a'r cennin i'r crochan

A'u berwi nes bod popeth yn tawel ffrwtian.

Pupur a halen gyda winwns a phannas

A sweden fawr gron wedi'i thorri'n faint addas,

Yn canu 'da'i gilydd yn flasus a swynol

Wrth i stêm hyfryd godi o'r wledd ddelfrydol.

1.
  • llythyr  
  • stori  
  • cerdd  
  • cyfweliad  
2.

Tanlinellwch 3 gair sy’n awgrymu bod y cawl yn braf i’w fwyta.

Yn canu ’da’i gilydd yn flasus a swynol

Wrth i stêm godi o’r wledd ddelfrydol.

3.

Yn y pennill yma, lliwiwch y geiriau sy’n awgrymu fod y bardd yn gwneud ymdrech i stopio’r llysiau.

I lawr â nhw wedyn i’r pentref ar garlam

Heibio pawb a phopeth ar ras igam-ogam,

O gwmpas yr eglwys a draw dros y bryniau

A minnau’n stryffaglu, yn dynn ar eu sodlau!

4.

Yn y pennill yma, lliwiwch y geiriau sy’n dweud wrthym fod y bardd wedi gweiddi’n uchel iawn.

‘Stopiwch nhw!’ bloeddiais nerth esgyrn fy mhen

Gan duchan ac ysu i’r ras ddod i ben,

Ond ’mlaen aeth y cennin nes cyrraedd y top

A dyna pryd ddaeth pob llysieuyn i stop!

Y Watsh

Y Watsh

“Codwch ac ewch allan i chwarae yn lle eistedd yn fan’na o flaen y sgrin drwy’r prynhawn,” dywedodd mam Iwan wrth y ddau fachgen.

“Ond beth wnawn ni?” gofynnodd Iwan.

“Ewch i’r ardd i gicio pêl … ewch i’r den i chwarae … ewch i weld Siôn drws nesa ... ewch â’r ci am dro … gwnewch unrhyw beth, ond ewch allan i’r haul yn lle aros yn y tŷ ar brynhawn mor braf.”

Meddyliodd Iwan am funud ac yna gofynnodd i’w fam, “Ble mae’r bêl newydd ges i ar fy mhen-blwydd?”

“Yn ystafell Taid,” atebodd ei fam.

“Tyrd,” dywedodd Iwan wrth Rhys, ei ffrind, ac i ffwrdd â nhw i mewn i ystafell Taid.

***

Roedd hi’n dywyll yn yr ystafell, ac felly agorodd Iwan y llenni. Roedd llun o Taid ar y wal – dyn mawr cryf, gyda mop o wallt llwyd a llygaid glas. Roedd bocsys o gwmpas yr ystafell – bocsys ar ben bocsys – ac enw Taid wedi ei ysgrifennu’n glir ar bob un.

“Pam mae pethau Taid mewn bocsys?” gofynnodd Rhys.

“Achos mae Taid wedi diflannu,” atebodd Iwan.

“Wedi diflannu? Ond sut? Pryd?”

“Dw i ddim yn gwybod sut diflannodd o,” atebodd Iwan, “Ond dw i’n gwybod pryd diflannodd o – bum mlynedd yn ôl.” Daeth golwg drist dros wyneb Iwan.

1.

Ticiwch un.

  • chwarae gyda’r bêl newydd  
  • chwarae yn y den  
  • chwarae ar y cyfrifiadur  
  • chwarae gyda Siôn drws nesa  

Open Menu