1
2
3
4
5
6
7

1. Tymhorau


Darllenwch y testun uchod.

1.


  • rysáit  
  • e-bost  
  • cerdd  
  • rhestr  
2.
  • y gwanwyn yr haf yr hydref y gaeaf

sŵn pryfed  

tawelwch llwyr  

niwl yn y bore  

byd natur yn deffro  

3.

Darllenwch y testun yma.

Y gwanwyn

Dail newydd ar goed,

Petalau'n agor,

Byd yn blaguro.

Yr haf

Haul poeth yn gwenu

dros enfys o liwiau'r haf

a mwmian gwenyn.

Yr hydref

Yn niwl y bore

Dail coch a brown yn disgyn –

Coeden yn cysgu.

Y gaeaf

Blanced o eira,

Dim si, dim symud, dim sŵn,

Dim lliwiau llawen.

Hedd ap Emlyn

2. Bywyd yn Haiti


Darllenwch y testun uchod.

1.
  Cywir Anghywir
1. Mae Gabriel yn wyth oed.    
2. Mae Gabriel yn ifancach na'i chwaer    
3. Mae chwaer Gabriel yn hoffi cysgu mewn gwely    
4. Mae bywyd yn y babell yn drist i Gabriel    
5. Mae pabell Gabriel wedi'i rhwygo.    
2.


miliwn a hanner cant saith deg dau o filoedd tri chan mil dau gant dau ddeg o filoedd
1,500,000 172,000 300,000 220,000

3.

Mae Gabriel yn dweud, "Byddwn i wrth fy modd yn mynd i'r ysgol ond mae'n rhaid i mi helpu Mam i gasglu poteli i'w hailgylchu."

4.


  • brifo  
  • lladd  
  • symud  
  • syrthio  
5.


  • syrthio  
  • torri  
  • siglo  
  • drafftiog  

3. Golygfa 1


Cliciwch ar y llun i ddarllen y testun.
Yna, atebwch y cwestiwn.

1.


Rwyf i eisiau aros.  
Dw i ddim eisiau aros.  
Dydw i ddim yn gallu aros.  
Rwy'n gallu aros.  
2.


Mae e'n siarad yn gyflym iawn.  
Mae e'n siarad yn araf iawn.  
Mae e'n siarad yn dawel iawn.  
Mae e'n siarad yn uchel iawn.  
3.


yn llai pwysig na fi  
yn fwy pwysig na fi  
yr un mor bwysig â fi  
bron yr un mor bwysig â fi  
4.


Mae Wil wedi bwyta gormod.  
Mae e wedi hen flino ar ei rieni.  
Mae e'n hoff iawn o'i rieni.  
Mae ei rieni'n hoffi bwyta llawer.  

4. Beth yw e?


Pe baech chi'n gweld y creadur yma yn y parc, beth fyddech chi'n ei wneud – rhoi maldod iddo, neu symud yn gyflym i'r cyfeiriad arall? O bellter, mae'n edrych fel rhyw deigr rhyfedd yn ei got oren a du streipiog, ond ci yw e! Dyma'r ffasiwn diweddara yn China - lliwio'ch cŵn i edrych fel anifail arall megis teigr, panda neu gamel!

Ond nid yw dilyn y ffasiwn yma'n rhad. Gall trip i'r parlwr ymbincio i liwio'r ci gostio tua $100 neu £67 a bydd y driniaeth yn para hyd at bum awr. Mae'n rhaid bod yn ofalus gyda'r math o liw a ddefnyddir gan fod rhai mathau o liw yn gallu bod yn wenwynig i'r cŵn. Hyd yn oed wedyn, mae staff yn argymell peidio â lliwio'r cŵn yn amlach na dwywaith y flwyddyn.

Mae'r arferion hyn yn adlewyrchu'r newid diwylliannol sydd wedi digwydd yn China. Ar un adeg, nid oedd y bobl gyffredin yn gweld unrhyw werth i gŵn gan fod rhaid eu bwydo er nad oeddent yn cyfrannu unrhyw beth i gymdeithas. Roedd cathod, ar y llaw arall, yn dderbyniol gan eu bod yn dal llygod. Dechreuodd pethau newid yn y 1990au ond mae cŵn yn dal i gael eu bwyta hyd heddiw mewn rhai ardaloedd tlawd.

Felly, mae cadw cŵn yn China yn pegynnu rhwng y tlawd a'r cyfoethog. Yn sicr, dylai cŵn sy'n cael eu lliwio i edrych fel anifail arall fod yn ddiolchgar nad ydynt yn cael eu llywio i'r lladd-dy.

1.


maldod rhad argymell cyfoethog pegynnu cyfrannu
mwythau dim yn costio llawer awgrymu digon o arian mynd i'r ddau eithaf rhoi
2.

O bellter, mae'n edrych fel rhyw deigr rhyfedd yn ei got oren a du streipiog, ond ci yw e!



i ddangos mai brawddeg sydd yma  
i ddangos syndod  
i ddangos bod ofn ar yr awdur  
i ddangos bod y lliwiau'n anhygoel  

5. Cystadleuaeth pecyn parti


Darllenwch y testun uchod.

1.
  Cywir Anghywir
Rhaid paratoi bwyd parti ar gyfer y gystadleuaeth.    
2.


pum punt  
pum deg punt  
pum can punt  
pum mil o bunnau  
3.


yn y gwanwyn  
yn yr haf  
yn yr hydref  
yn y gaeaf  

6. Arwr!


Darllenwch y testun uchod.

1.


mewn cyfrol o gerddi  
mewn llyfr hanes  
mewn papur newydd  
mewn llythyr  
2.

Darllenwch y testun yma.

Arwr!

Mae Siôn Williams wedi ennill gwobr sy'n dangos ei fod e'n fachgen arbennig iawn.

Mewn seremoni fawr mewn gwesty moethus yng Nghaerdydd nos Wener diwethaf, enillodd Siôn y teitl Arwr Ifanc Cymru, a rhaid dweud, mae e'n dipyn o arwr!


Pan fydd pobl yn meddwl am arwr, yn aml iawn, maen nhw'n meddwl am ddyn cryf, dewr, sy'n gallu gwneud pob math o gampau, fel hedfan i fyny i'r awyr efallai ac yna disgyn i'r ddaear i ddal y dyn drwg – fel rhyw fath o Superman. Mae pobl eraill yn meddwl am ferch hardd, glyfar sy'n achub y byd rhag aliwns o'r gofod neu bob math o greaduriaid ofnadwy eraill.

Ond nid dyna beth yw arwr ac, yn sicr, nid dyna'r math o arwr yw Siôn. Bachgen deg oed, yn Ysgol Pant y Felin, yw e. Mae e'n hoffi chwarae pêl-droed a bwyta brechdanau menyn cnau mwnci – fel llawer o fechgyn eraill ei oed.

Mae e'n arwr oherwydd ei fod e wedi bod yn cefnogi ei frawd iau, Ifan, sy'n bump oed.

3.


Seremoni fawr  
Gwobr arbennig  
Beth yw arwr?  
Ysgol Pant y Felin  

7. Chwedl Llyn y Fan Fach


Un diwrnod, pan oedd mab fferm Blaen Sawdde yn edrych ar ôl gwartheg ei fam ger Llyn y Fan Fach, gwelodd y forwyn harddaf roedd wedi ei gweld erioed. Roedd hi'n eistedd ar wyneb y dŵr a syrthiodd y dyn ifanc mewn cariad â hi ar unwaith.

Aeth ati a chynigiodd ddarn o fara iddi er mwyn denu ei sylw ond gwrthododd hi'r bara, gan ddweud, "Mae dy fara di'n rhy sych. Wnei di byth fy nal i," a diflannodd i mewn i'r llyn.

Dychwelodd y dyn ifanc y diwrnod wedyn a chynigiodd fwy o fara iddi, ond gwrthododd hi ei gymryd eto. "Mae dy fara di'n rhy laith," dywedodd y forwyn y tro yma, cyn diflannu i mewn i'r llyn.

Dychwelodd y dyn ifanc y trydydd dydd a chynnig bara i'r forwyn eto. Y tro hwn, roedd hi'n hapus gyda'r bara ac felly dyma hi'n ei dderbyn.

Gofynnodd y dyn ifanc iddi ei briodi a chytunodd – ar un amod. Dywedodd petai e'n ei tharo hi dair gwaith, y byddai'n dychwelyd i'r llyn. Roedd y dyn ifanc yn hapus iawn gyda'r amod oherwydd nid oedd yn gallu gweld unrhyw reswm pam byddai'n ei tharo byth!

Darllenwch y testun uchod.

1.


gwerthu bara  
chwilio am wraig  
gofalu am anifeiliaid  
arnofio ar y dŵr  
2.

Darllenwch y testun yma a sylwch ar y radd eithaf.

gwelodd y forwyn harddaf roedd wedi ei gweld erioed.

Hwn oedd y dyn (hapus) yn y byd.

3.

Darllenwch y testun yma.

Chwedl Llyn y Fan Fach

Un diwrnod, pan oedd mab fferm Blaen Sawdde yn edrych ar ôl gwartheg ei fam ger Llyn y Fan Fach, gwelodd y forwyn harddaf roedd wedi ei gweld erioed. Roedd hi'n eistedd ar wyneb y dŵr a syrthiodd y dyn ifanc mewn cariad â hi ar unwaith.

Aeth ati a chynigiodd ddarn o fara iddi er mwyn denu ei sylw ond gwrthododd hi'r bara, gan ddweud, "Mae dy fara di'n rhy sych. Wnei di byth fy nal i," a diflannodd i mewn i'r llyn.

Dychwelodd y dyn ifanc y diwrnod wedyn a chynigiodd fwy o fara iddi, ond gwrthododd hi ei gymryd eto. "Mae dy fara di'n rhy laith," dywedodd y forwyn y tro yma, cyn diflannu i mewn i'r llyn.

Dychwelodd y dyn ifanc y trydydd dydd a chynnig bara i'r forwyn eto. Y tro hwn, roedd hi'n hapus gyda'r bara ac felly dyma hi'n ei dderbyn.

Gofynnodd y dyn ifanc iddi ei briodi a chytunodd – ar un amod. Dywedodd petai e'n ei tharo hi dair gwaith, y byddai'n dychwelyd i'r llyn. Roedd y dyn ifanc yn hapus iawn gyda'r amod oherwydd nid oedd yn gallu gweld unrhyw reswm pam byddai'n ei tharo byth!

Open Menu