Esboniad 1
Esboniad 2
Esboniad 3
Esboniad 4
Esboniad 5

Gweithgaredd 38

Newidiwch y berfau yn yr ail baragraff i'r person cyntaf unigol.

Clywodd e'r sgrech erchyll a rhedodd i lawr y stryd nerth ei draed. Cyrhaeddodd yr heol fawr â'i wynt yn ei ddwrn. Roedd rhywun yn dal i'w ddilyn. Gallai glywed y traed trwm yn taro'r palmant. Beth wnâi e nawr? Allai e ddim mynd nôl at ei gar ac ni allai ddefnyddio'i ffôn i alw'i bartner rhag ofn i'r bwystfil ei glywed a dod o hyd i'w guddfan. Roedd e'n siwr ei fod yn mynd i gael ei ddal pan gafodd e'r syniad...

Clywais i'r sgrech erchyll a rhedais i lawr y stryd nerth fy nhraed. Cyrhaeddais yr heol fawr a'm gwynt yn fy nwrn. Roedd rhywun yn dal i'm dilyn. Gallwn glywed y traed trwm yn taro'r palmant. Beth wnawn i nawr? Allwn i ddim mynd nôl at fy nghar ac ni allwn ddefnyddio fy ffôn i alw'i fy mhartner rhag ofn i'r bwystfil fy nghlywed a dod o hyd i'm cuddfan. Roeddwn i'n siwr fy mod yn mynd i gael fy nal pan ges i'r syniad...