Esboniad 1
Esboniad 2
Esboniad 3
Esboniad 4

Gweithgaredd 35

Newidiwch y paragraff yma i sôn am ferch (Siân!) yn hytrach na bachgen.

Mae Siôn yn mwynhau ei amser yn y brifysgol yn fawr iawn. Erbyn hyn, mae e'n astudio mathemateg yn ei ail flwyddyn. Ar ôl iddo raddio, gobeithia y bydd modd iddo hyfforddi fel cyfrifydd. Bydd ei gymhwyster mewn mathemateg yn fantais iddo ac mae e'n dweud ei fod yn ofalus iawn gyda'i arian! Mae'n anodd credu hynny ac yntau'n fyfyriwr!

Er ei fod yn gefnder i mi, fydda i ddim yn ei weld yn aml. Ces i neges destun wrtho neithiwr yn fy ngwahodd i aros gydag e dros y penwythnos. Mae ganddo fflat yng nghanol y ddinas. Yn ei farn e, caf i flas go iawn ar fywyd prifysgol yn ei gwmni!

Mae Siân yn mwynhau ei hamser yn y brifysgol yn fawr iawn. Erbyn hyn, mae hi'n astudio mathemateg yn ei hail flwyddyn. Ar ôl iddi raddio, gobeithia y bydd modd iddi hyfforddi fel cyfrifydd. Bydd ei chymhwyster mewn mathemateg yn fantais iddi ac mae hi'n dweud ei bod yn ofalus iawn gyda'i harian! Mae'n anodd credu hynny a hinthau'n fyfyrwraig!
Mae Siôn yn mwynhau ei amser yn y brifysgol yn fawr iawn. Erbyn hyn, mae e'n astudio mathemateg yn ei ail flwyddyn. Ar ôl iddo raddio, gobeithia y bydd modd iddo hyfforddi fel cyfrifydd. Bydd ei gymhwyster mewn mathemateg yn fantais iddo ac mae e'n dweud ei fod yn ofalus iawn gyda'i arian! Mae'n anodd credu hynny ac yntau'n fyfyriwr!
Er ei bod yn gyfnither i mi, fydda i ddim yn ei gweld yn aml. Ces i neges destun wrthi neithiwr yn fy ngwahodd i aros gyda hi dros y penwythnos. Mae ganddi fflat yng nghanol y ddinas. Yn ei barn hi, caf i flas go iawn ar fywyd prifysgol yn ei chwmni!